Dyn o Gaerffili yn euog o achosi dioddefaint diangen i'w gŵn
Ar 8 Chwefror 2024, plediodd dyn o Gaerffili yn euog yn Llys Ynadon Cwmbrân i gyhuddiadau yn ymwneud â lles anifeiliaid, a oedd yn cynnwys saith cyhuddiad o fethu â diwallu anghenion lles cŵn o dan ei ofal i’r graddau sy’n ofynnol gan arfer da a thri chyhuddiad o achosi dioddefaint diangen yn groes i Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006
Cafodd Simon Hobbs (46 oed) ddirwy o £360 am achosi dioddefaint diangen i bum ci gan gynnwys Malinois Gwlad Belg oedd yn feichiog. Cafodd Hobbs orchymyn i dalu costau o £7,884 a gordal dioddefwr o £144. Cafodd ei wahardd rhag cadw unrhyw anifeiliaid am bum mlynedd.
Daw’r ddedfryd yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Caerffili a weithredodd nifer o warantau, ym mis Mehefin 2023.
Bu swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gwent, ynghyd â milfeddyg, yn chwilio cartref Hobbs a dod o hyd i chwe chi yn y gegin; roedd tri Cŵn Tarw Ffrengig yn cael eu cartrefu mewn cawell bach iawn. Roedd yr amodau yn y gegin yn gyfyng, yn orlawn ac yn anghyfforddus gyda diffyg lle i chwarae, mynd i'r toiled a bwyta. Roedd y cŵn yn rhannu un hambwrdd bwyd a dwy bowlen o ddŵr. Roedd un o'r cŵn, Malinois Gwlad Belg beichiog, yn sylweddol o dan bwysau. Rhoddodd enedigaeth i 8 ci bach 10 diwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd Akita ei ffeindio mewn cwt pren tu allan mewn golau haul uniongyrchol, heb unrhyw ddillad gwely meddal na chyfoethogiadau. Cafodd tymereddau cynnar yn y dydd eu cofnodi'n uwch na 26 gradd, y tymheredd uchaf a dderbynnir ar gyfer cŵn.
Cafodd dri chi eu gweld gyda chyflyrau a oedd yn achosi ddioddefaint diangen iddyn nhw oherwydd diffyg ymyrraeth filfeddygol a rheolaeth.
Cafodd y cŵn eu symud o'r safle a'u rhoi yng ngofal Hope Rescue, a hoffwn ni ddiolch iddyn nhw am ofalu amdanyn nhw ac yn arbennig am y gofal dwys a gafodd ei ddarparu ganddyn nhw i'r Malinois Gwlad Belg a'i chŵn bach.
Dywedodd Sara Rosser, Rheolwr Gweithrediadau Canolfan Hope Rescue,
“Roedden ni'n falch o allu cefnogi gwaith caled Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda'r achos hwn. Brawychus oedd gweld cymaint o gŵn yn byw mewn amodau mor ofnadwy.
Roedd angen triniaeth gan filfeddyg ar y cŵn a gofal arbenigol - roedden ni'n llawn tosturi dros un o'r cŵn yn arbennig, sef y Malinois, ac fe wnaethon ni ei henwi yn Jinx. Yn ogystal â bod mewn cyflwr ofnadwy, roedd hi'n feichiog. Roedden ni'n pryderu'n fawr na fyddai ganddi’r cryfder i roi genedigaeth a gofalu am ei babanod ond o ganlyniad i waith caled Tîm Hope Rescue, goroesodd pob un o’r 8 ci bach, ac mae Jinx bellach yn ffynnu.
Rydyn ni wrth ein bodd bod y rhan fwyaf o'r cŵn eisoes wedi dod o hyd i gartrefi newydd cariadus."
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd
“Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth uchel i’r awdurdod a dylai’r erlyniad hwn gweithredu fel ataliad i eraill sy’n methu â diwallu anghenion anifeiliaid ac achosi dioddefaint diangen iddyn nhw.”