Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Polisi Cwcis


Beth yw Cwci?

Ffeiliau testun bach yw cwcis a gaiff eu hanfon a’u storio yn eich cyfrifiadur, eich ffôn clyfar neu ddyfais arall a ddefnyddir i chwilio ar y rhyngrwyd, pryd bynnag yr ymwelwch â’n gwefan. Mae pob cwci’n unigryw i’ch porwr gwe. Bydd yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ddienw megis dull adnabod unigryw ac enw’r wefan a rhai digidau a rhifau. Mae cwcis yn benodol i’r gweinydd sydd wedi’u creu ac ni all gweinyddion eraill eu cyrchu, sy’n golygu nad oes modd eu defnyddio i olrhain eich symudiadau mewn rhannau eraill o’r we. Nodwch nad yw cyfrineiriau na rhifau cardiau credyd yn cael eu storio mewn cwcis.

Bydd y rhan fwyaf o wefannau y byddwch yn ymweld â hwy yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad fel defnyddiwr trwy alluogi’r wefan honno i’ch ‘cofio’, naill ai yn ystod eich ymweliad (trwy ddefnyddio ‘cwci sesiwn’) neu yn ystod ymweliadau yn y dyfodol (trwy ddefnyddio ‘cwci parhaus’).

Mae’r rhan fwyaf o wefannau’n defnyddio cwcis am resymau amrywiol, fel nodi hoffterau, caniatáu i ddefnyddwyr symud rhwng tudalennau’n effeithlon, cadarnhau’r defnyddiwr a gwneud tasgau diogelwch hanfodol eraill. Pethau nad ydynt yn ymyrryd yw’r rhain.

O ganlyniad i’r cwcis, mae’r broses ryngweithio rhyngoch chi a’r wefan yn gyflymach ac yn haws. Os nad yw gwefan yn defnyddio cwcis, bydd hi’n meddwl eich bod chi’n ymwelydd newydd bob tro y byddwch yn symud i dudalen newydd ar y wefan - er enghraifft, pan fyddwch yn rhoi eich manylion mewngofnodi ac yn symud i dudalen arall, ni fydd y wefan yn eich adnabod nac yn eich ystyried yn ddefnyddiwr y mae eisoes wedi’i fewngofnodi.

Efallai y gosodir cwcis gan y wefan yr ydych yn ei hymweld â hi (‘cwcis parti cyntaf’) neu efallai y gosodir nhw gan wefannau eraill sy’n rhedeg cynnwys ar y dudalen yr ydych yn edrych arni (‘cwcis trydydd parti’).

Nid ydym yn gwerthu’r wybodaeth a gesglir gan gwcis, ac nid ydym yn datgelu’r wybodaeth i unrhyw drydydd parti, oni bai bod yn rhaid i ni wneud hyn yn ôl y gyfraith (er enghraifft i gyrff y llywodraeth ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith).

D.S. Mae cwcis parhaus yn aros ar ôl i chi gau’r porwr.

Am fwy o wybodaeth am gwcis, ewch i http://www.allaboutcookies.org/

Mathau gwahanol o gwcis

Cwcis Angenrheidiol

Mae cwcis angenrheidiol yn caniatáu i chi symud o amgylch y wefan a defnyddio nodweddion hanfodol fel rhannau diogel. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch y gellir ei defnyddio ar gyfer marchnata neu gofio pa wefannau yr ydych wedi edrych arnynt. Nid oes modd i chi optio allan o gwcis angenrheidiol ac felly, ni ddylech barhau i ddefnyddio’r safle hwn neu dylech newid gosodiadau eich porwr fel y bydd yn rhwystro cwcis o’r safle hwn (Gweler ‘Rheoli eich cwcis’ isod).

D.S. Tybir eich bod chi wedi cytuno i dderbyn cwcis angenrheidiol trwy ddefnyddio’r safle. Os byddwch yn defnyddio’r porwr i rwystro Cwcis Angenrheidiol, bydd yn atal y safle rhag gweithredu fel y bwriedir.

Er enghraifft, caiff cwcis o’r fath eu defnyddio ar gyfer:

Cofio gwybodaeth y byddwch yn ei rhoi ar ffurflenni pan fyddwch yn symud, mewn sesiwn porwr gwe unigol, i dudalennau gwahanol sy’n adnabod eich bod chi wedi mewngofnodi (os oes gan y safle le i fewngofnodi).

Ni fydd defnyddio cwcis yn casglu gwybodaeth y gellir ei defnyddio er mwyn hysbysebu cynhyrchion neu wasanaethau i chi neu ei defnyddio er mwyn targedu hysbysebion ar unrhyw safle arall.

Mae’r tabl isod yn egluro’r cwcis yr ydym yn eu defnyddio a pham.

Cwci Enw Parhaus Pwrpas Mwy o wybodaeth
Derbyn cwcis y wefan rtCookiePrivacySetting Y Defnyddir y cwci hwn i gofnodi a ydy defnyddiwr dderbyn i ddefnyddio cwcis ar y wefan hon.  
Statws Mewngofnodi’n Awtomatig rtAutoLogin Y Defnyddir y cwci hwn i gofnodi a yw defnyddiwr wedi dewis mewngofnodi’n awtomatig pan fydd yn dychwelyd i’r safle. NID YW’N cynnwys unrhyw wybodaeth am y defnyddiwr na chyfrinair.  
Cwci sesiwn ASP.NET_SessionId N Mae’r cwci hwn yn hanfodol ar gyfer rhannau o’r safle a ddiogelir y mae’n rhaid mewngofnodi i’w cyrraedd. Dim ond ar gyfer y bobl sy’n defnyddio’r safle y caiff ei ddefnyddio. Caiff ei ddileu ar ôl i chi gau’r porwr. Ewch i wefan Microsoft
Cwcis Telerik Amrywiol (gan ddibynnu ar y rheolaethau a ddefnyddir ar y safle hwn) Y Defnyddir y cwcis hyn gan reolaethau tudalennau telerik er mwyn cofnodi eu cyflwr. e.e. ffurfweddau grid a dewisiadau bar y ddewislen olygu. I gael mwy o wybodaeth am gwci telerik penodol, chwiliwch amdano yn nhudalennau cymorth Telerik

Cwcis Perfformiad

Mae cwcis ‘Perfformiad’ yn casglu gwybodaeth am sut yr ydych yn defnyddio ein gwefan e.e. pa dudalennau yr ydych yn ymweld â nhw, ac a ydych yn profi unrhyw wallau. Nid yw’r cwcis hyn yn casglu unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi - mae’r holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n ddienw ac mae’n cael ei defnyddio dim ond er mwyn gwella ein gwefan, ein gwasanaeth i chi, er mwyn deall beth sydd o ddiddordeb i’n defnyddwyr a mesur pa mor effeithiol yw ein hysbysebion.

D.S. Gellir rhwystro cwcis Perfformiad.

Rydym yn defnyddio cwcis ‘Perfformiad’ er mwyn:

Rhoi ystadegau ar sut y mae ein gwefan yn cael ei defnyddio.
Gweld pa mor effeithiol yw ein hysbysebion (ni fyddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn targedu hysbysebion atoch pan fyddwch yn ymweld â gwefannau eraill).
Ein helpu ni i wella ein gwefan trwy fesur unrhyw wallau sy’n digwydd.

NI chaiff cwcis ‘Perfformiad’ eu defnyddio er mwyn:

Casglu gwybodaeth y gellir ei defnyddio er mwyn hysbysebu cynhyrchion neu wasanaethau i chi ar wefannau eraill.
Targedu hysbysebion atoch ar unrhyw wefan arall.

Cwci Enw Parhaus Pwrpas Mwy o wybodaeth
Google Analytics _utma
_utmb
_utmc
Y Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut y mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Rydym yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn llunio adroddiadau ac er mwyn ein helpu ni i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf gwbl ddienw, ac yn cynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble y mae ymwelwyr y safle wedi dod a’r tudalennu y maen nhw wedi ymweld â hwy. Cliciwch yma i gael trosolwg o breifatrwydd yn Google

Rheoli eich cwcis

Yn nodweddiadol, mae porwyr y rhan fwyaf o gyfrifiaduron, ffonau clyfar a dyfeisiau eraill sy’n gallu defnyddio’r we wedi’u gosod i dderbyn cwcis. Os hoffech newid eich dewisiadau o ran cwcis ar gyfer ein gwefan ni neu unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn yng ngosodiadau eich porwr. Bydd swyddogaeth ‘help’ eich porwr yn dweud wrthych sut i rwystro eich porwr rhag derbyn cwcis newydd, sut i gael hysbysiad gan eich porwr pan fyddwch yn derbyn cwci newydd a sut i analluogi cwcis yn llwyr. Yn ogystal, gallwch analluogi neu ddileu data tebyg a ddefnyddir gan ychwanegion y porwr, fel cwcis Flash, trwy newid gosodiadau’r ychwanegion neu ymweld â gwefan ei weithgynhyrchwr.

Yn aml, defnyddir cwcis er mwyn galluogi a gwella gweithrediadau penodol ar ein gwefan. Os byddwch yn dewis analluogi cwcis penodol, mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ar y ffordd y mae ein gwefan yn gweithio.

Rydym wedi cynnig y gwefannau canlynol er mwyn i chi gael rhagor o wybodaeth am gwcis:

Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out