Dirwy am werthu fêps anghyfreithlon
Cafodd rheolwr siop fêps ym Mhenfro ddirwy gan Ynadon yn dilyn erlyniad llwyddiannus gan Gyngor Sir Penfro.
Cafodd Terry Miller, o Vape Allsorts, Main Street, ei erlyn ar ôl gwerthu fêp tafladwy anghyfreithlon a gwnaeth swyddogion Safonau Masnach atafaelu 39 o fêps eraill, nad oeddynt yn cydymffurfio, o'r siop.
Roedd gan y fêps anghyfreithlon danciau capasiti 12ml yn groes i'r Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig sy'n caniatáu uchafswm o 2ml o hylif anadlu nicotin ar gyfer fêps tafladwy.
Anfonwyd sampl o'r fêp i'w brofi a chanfuwyd bod ganddo gyfaint o 7.6ml, sy'n llawer mwy na'r 2ml a ganiateir.
Roedd hyn hefyd yn golygu bod y fêp yn cynnwys 114mg o nicotin, ond ni chaiff fêp tafladwy 2ml cyfreithlon gynnwys mwy na 40mg.
Roedd troseddau hefyd yn ymwneud â label y cynhyrchion gan fod gwybodaeth hanfodol ar goll o'r label.
Roedd y rheolwr eisoes wedi cael gwybod am y rhwymedigaethau cyfreithiol cymwys cyn cyflawni'r drosedd.
Ar Chwefror 9fed cafodd Miller ddirwy o £918 am y fêps nad oeddynt yn cydymffurfio, gordal dioddefwr o £367 a chafodd ei orchymyn i dalu £1,000 mewn costau. Ni roddwyd cosb ar wahân am y tair trosedd arall.
Mae cyfanswm o £2285 yn ddyledus i'r Llys a gwnaed Gorchymyn Fforffedu a Gorchymyn Dinistrio mewn perthynas â'r 40 fêp sigarét.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet Gweithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae gwerthu fêps anghyfreithlon yn flaenoriaeth uchel i Wasanaethau Safonau Masnach awdurdodau lleol a rhoddir sylw i’r broblem yn rheolaidd yn y cyfryngau cenedlaethol fel un o'r bygythiadau mwyaf sy'n ymddangos ar strydoedd mawr y DU.
"Gall fêps sy’n rhy gryf achosi i unigolion amsugno gormod o nicotin, a allai achosi niwed difrifol, yn ogystal ag achosi caethiwed cryf. Dangoswyd bod fêps anghyfreithlon hefyd yn cynnwys cyfuniad o gemegau, rhai ohonynt wedi'u gwahardd, a chanfuwyd bod gan rai dyfeisiau fatris lithiwm anniogel.
"Bydd Tîm Safonau Masnach y Cyngor yn parhau i weithio gyda manwerthwyr i godi ymwybyddiaeth o ofynion cyfreithiol a sut i nodi dyfeisiau sy’n cydymffurfio o’u cymharu â rhai nad ydynt yn cydymffurfio.
"Fodd bynnag, bydd y bobl hynny y canfyddir eu bod wedi anwybyddu'r cyngor hwn ac sy'n cyflenwi yn anghyfreithlon yn cael eu herlyn drwy'r llysoedd a bydd dyfeisiau nad ydynt yn cydymffurfio yn cael eu hatafaelu a'u dinistrio."