Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Gwerthu tybaco ffug yn arwain at garchar i ddyn o Abertawe


Mae dyn o Abertawe a gafodd ei ddal gyda miloedd o sigaréts, tybaco ac arian parod yn ei gar wedi'i garcharu.

Cafodd y preswylydd o Abertawe, Adnan Mohamed Abdulla, ei gyhuddo gan Safonau Masnach Cyngor Abertawe ar ôl i'w gar gael ei stopio gan heddlu yn y ddinas yn ystod eu gorchwylion arferol.

Pan stopiwyd y car yn Gors Avenue ar 10 Rhagfyr 2023, darganfu'r heddlu fwy na 45,000 o sigaréts, 70 pecyn o dybaco a gwerth bron £16,000 mewn arian parod.

Unwaith y cysylltwyd â Safonau Masnach, cafodd Mr Abdulla 36 oed o 12 Harrington Place, Abertawe ei gyhuddo o sawl trosedd, gan gynnwys twyll a throseddau safonau masnach.

Roedd y troseddau hefyd yn ganlyniad i achlysuron blaenorol pan ddaeth Safonau Masnach ar draws y diffynnydd, pan atafaelwyd sigaréts ffug oddi arno ym Marchnad Celine - Y Stryd Fawr. Roedd wedi cael ei stopio'n flaenorol gan yr heddlu hefyd, ac atafaelwyd sigaréts o'r cerbyd bryd hynny.

Yn dilyn pleon euog am 10 trosedd o dan y Ddeddf Twyll, y Ddeddf Nodau Masnach a rheoliadau tybaco, ymddangosodd Mr Abdulla yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 22 Ionawr, ac fe'i dedfrydwyd i 16 mis yn y carchar.

Yn y llys dywedodd y barnwr, Huw Rees, fod y diffynnydd wedi bod yn gwerthu swm sylweddol o dybaco anghyfreithlon dros gryn dipyn o amser yn y ddinas.

Roedd y ddedfryd hefyd yn adlewyrchu'r ymdrechion parhaus i werthu'r tybaco, er gwaethaf y cyfarfyddiadau â'r heddlu a safonau masnach.

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Unwaith eto, mae ein Safonau Masnach wedi gweithio ochr yn ochr â'r heddlu lleol i atal ymdrechion unigolion sy'n ceisio gwerthu cynnyrch tybaco ffug yn ein dinas.

"Rwy'n croesawu'r ddedfryd o garchar a roddwyd i'r diffynnydd, yn enwedig gan nad oedd rhybuddion a chyfarfyddiadau blaenorol â safonau masnach wedi'i atal rhag parhau â'r gweithgarwch anghyfreithiol hwn.

"Mae'n debygol iawn fod y person a oedd yn ymwneud â gwerthu'r tybaco hwn yn cyflenwi siopau yn y ddinas, felly rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i arafu'r cyflenwad o gynnyrch ffug i siopau'r ddinas.

"Mae'n aml yn cymryd llawer o ymdrech, amser a chydweithio gyda'r heddlu i gyflwyno'r achosion hyn. Rwy'n ddiolchgar iawn i ymdrechion pawb a fu'n rhan o hyn i barhau i gadw'r ddinas yn ddiogel."

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out