Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Erlyn Two Tone Vapes Ltd am werthu vape i ferch 15 oed


Yn ddiweddar, fe wnaeth Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful atal gwerthu nwyddau â chyfyngiad oedran i blentyn.

Mae cryn bryder ar hyn o bryd ynghylch pobl ifanc yn cael mynediad at gynhyrchion ‘anwedd’. Fel rhan o raglen weithredu sy’n mynd i’r afael â’r mater hwn, mae’r Tîm Safonau Masnach yn defnyddio gwirfoddolwyr o dan 18 oed yn rheolaidd mewn ‘gweithrediadau prynu prawf’.

Roedd Two Tones Vapes Ltd, 2A Victoria Street, Merthyr Tudful yn 1 o 6 safle lle ceisiodd plentyn 15 oed brynu vape tafladwy nicotin.

Gwerthodd cyfarwyddwr y cwmni, Michael Jenkins, y vape i'r gwirfoddolwr. Canfu ymchwiliad yn dilyn y gwerthiant nad oedd systemau digonol yn eu lle yn y siop i atal gwerthu vapes i rai dan 18 oed.

Ar 24 Ionawr 2024, plediodd Two Tone Vapes Ltd a Michael Jenkins ill dau’n euog drwy’r post i’r drosedd yn Llys Ynadon Merthyr Tudful. Gorchmynnwyd Two Tone Vapes Ltd i dalu costau a dirwyon gwerth cyfanswm o £816 a gorchmynnwyd Michael Jenkins i dalu costau a dirwyon o £616.

Dywedodd Craig Rushton, Arweinydd Tîm Safonau Masnach, “Byddwn yn parhau i weithredu yn erbyn siopau sy’n gwerthu cynnyrch nicotin i’r rhai dan oed.

“Mae yn erbyn y gyfraith gwerthu anwedd, anwedd untro neu e-hylif sy'n cynnwys nicotin i unrhyw un o dan 18 oed. Cyfrifoldeb busnesau yw sicrhau bod ganddyn nhw systemau yn eu lle i atal gwerthiant o'r fath.

“Rwy’n annog unrhyw fusnes sydd angen pecyn gwybodaeth ar sut i atal gwerthu cynhyrchion nicotin i rai dan oed i gysylltu â’r Gwasanaeth Safonau Masnach.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd, “Rydym wedi gweld cynnydd mewn mwy o bobl ifanc yn arbrofi ag anwedd. Nid yw'n dderbyniol gwerthu vapes i unrhyw un dan oed.

“Rwy’n cymeradwyo’r gwaith parhaus y mae Safonau Masnach Merthyr Tudful yn ei wneud ac rwy’n annog ein cymunedau i roi gwybod am unrhyw fasnachwr y maent yn credu sy’n gwerthu vapes i’n pobl ifanc.”

Gallwch riportio siopau sy'n gwerthu codennau vape nicotin tafladwy, e-sigaréts neu e-hylifau i'r rhai dan oed ar-lein yn Adrodd am Fater Safonau Masnach | Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu drwy e-bostio tstandards@merthyr.gov.uk.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out