Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Erlyn yn dilyn camddefnyddio logos


Mae cwmni cynnal a chadw eiddo lleol wedi pledio’n euog i gamddefnyddio logos achredu mewn gwrandawiad yn Llys yr Ynadon Caernarfon, wedi i Adran Safonau Masnach Ynys Môn ddod ag achos yn ei erbyn.

Wedi i’r Adran Safonau Masnach dderbyn cwyn ym mis Ionawr 2023, canfuwyd bod Mr Elize yn defnyddio logo'r National Inspection Council for Electrical Installation Contracting (NICEIC) a logo’r Federation of Master Builders (FMB) ar ei safleoedd cyfryngau cymdeithasol a cherbyd y busnes, er nad oedd wedi’i awdurdodi i wneud hynny gan na fu erioed yn aelod o’r sefydliadau hyn.

Yn ogystal, canfuwyd ei fod yn honni ei fod yn berson cymwys Rhan P, er nad oedd o mewn gwirionedd.

Clywodd y llys fod cwsmeriaid yn credu bod rhywun sy’n aelod o gymdeithas yn meddu ar lefel uwch o arbenigedd a sgiliau. Mae aelodau cymdeithasau o’r fath, ac yn enwedig personau cymwys Rhan P, yn sefyll arholiadau ac mae eu gwaith yn cael ei wirio, ac maent yn talu ffi flynyddol i gynnal eu cymwyseddau.

Mae defnyddio logos a gwneud honiadau o’r fath heb ganiatâd yn camarwain cwsmeriaid ac mae’n ffordd o geisio sicrhau mantais gystadleuol dros fusnesau ac ennill gwaith na fyddent wedi ei gael fel arall.

Plediodd Mr Kris Elize, unig gyfarwyddwr ‘Precision Property Maintenance Ltd’, o Borthaethwy, Ynys Môn, yn euog i bedwar cyhuddiad o fasnachu annheg o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a Rheoliadau Diogelu Busnesau rhag Marchnata Camarweiniol 2008.

Mewn gwrandawiad dedfrydu ar 13 Rhagfyr 2023, clywodd y llys am amgylchiadau lliniaru o natur bersonol ond, serch hynny, dyfarnodd y fainc bod rhaid i Mr Elize dalu cyfanswm o £2,388.36 a oedd yn cynnwys dirwyon, iawndal, costau a gordal dioddefwyr.

Wrth groesawu’r penderfyniad, mae Safonau Masnach Ynys Môn yn dymuno pwysleisio na chaiff camddefnyddio logos cymdeithasau ei oddef ac y bydd y sawl sy’n eu defnyddio heb ganiatâd yn cael eu herlyn yn y llysoedd. Yn ogystal â chamarwain y cyhoedd, mae hefyd yn niweidio enw da masnachwyr achrededig cyfreithlon.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out