Mae gan y Gwasanaeth Safonau Masnach yng Nghymru wasanaethau cynghori defnyddwyr sy'n cynnig addysg defnyddwyr i unigolion, grwpiau, sefydliadau ac ati i dynnu sylw at hawliau a chyfrifoldebau defnyddwyr wrth brynu nwyddau a gwasanaethau.
Byddant yn ymateb yn gadarnhaol i geisiadau am sgyrsiau a chyflwyniadau. Byddant yn cynnal digwyddiadau arbennig i ymdrin â meysydd diddordeb penodol. Er enghraifft, mae'r cynnydd diweddar mewn troseddau yr adroddwyd amdanynt yn ymwneud â galwyr carreg y drws, a masnachwyr twyllodrus, wedi arwain at fwy o geisiadau am wybodaeth a chyngor ar sut i atal defnyddwyr rhag dod yn ddioddefwyr y math hwn o drosedd. Mae llawer o awdurdodau bellach yn ymateb i geisiadau a hefyd yn targedu gwasanaethau arbennig at bobl agored i niwed.