Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Sicrhau tystiolaeth i brofi'ch honiad



.

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr

Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd gennych broblem gyda nwyddau diffygiol neu gynnwys digidol neu bydd gennych gwyn am wasanaeth gwael. Os felly, bydd y masnachwr fel arfer yn derbyn cyfrifoldeb ac yn cytuno i unioni pethau trwy gynnig ad-daliad, atgyweiriad, amnewidiad, gostyngiad pris neu drwy ailadrodd y gwasanaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fyddwch mewn anghydfod gyda'r masnachwr oherwydd na allwch gytuno ar yr hyn a achosodd y broblem a phwy sy'n gyfrifol am ei datrys. Efallai y bydd y masnachwr yn mynnu bod y gwasanaeth wedi'i gyflawni'n iawn, mai chi a achosodd y difrod neu fod y broblem wedi'i achosi oherwydd traul. Fodd bynnag, efallai y credwch fod y gwasanaeth yn is na'r safon neu fod y nwyddau neu'r cynnwys digidol a ddarparwyd yn ddiffygiol.

Efallai y bydd angen i chi brofi eich hawliad, sy'n golygu bod angen i chi gasglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwch. Efallai y bydd angen i chi gael barn rhywun arall hyd yn oed. Sut ydych chi'n gwybod bod gan y person hwn y sgiliau, y wybodaeth, y cymwysterau a'r profiad gofynnol i roi barn? Beth sy'n digwydd os nad yw'r masnachwr yn cytuno i archwiliad ac adroddiad? Sut ydych yn profi bod y masnachwr wedi eich camarwain neu wedi defnyddio arfer masnachol ymosodol? Bydd y canllaw hwn yn rhoi'r wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i gael tystiolaeth.

Y GYFRAITH

Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawliau i chi pan fyddwch yn gwneud contract gyda masnachwr ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chynnwys digidol. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i brofi'ch hawliad.

NWYDDAU

Os byddwch yn arfer eich hawl tymor byr i wrthod am ad-daliad (hynny yw, gwrthod y nwyddau o fewn 30 diwrnod) yna efallai y bydd yn rhaid i chi brofi bod y nwyddau yn ddiffygiol ar yr adeg y cawsant eu cyflenwi i chi, oni bai fod y nam yn amlwg.

Fodd bynnag, os byddwch yn dewis rhwymedi gwahanol, megis atgyweirio neu amnewid, a bod nam yn cael ei ddarganfod o fewn chwe mis i dderbyn y nwyddau, tybir bod y nam yno pan brynoch y nwyddau. Weithiau nid yw diffygion yn dod i'r amlwg ar unwaith ond roeddent serch hynny yn bresennol yn y nwyddau. Mater i'r masnachwr yw profi fel arall; gallant, er enghraifft, gredu eich bod wedi difrodi neu gamddefnyddio'r nwyddau. Gelwir hyn yn gyffredin yn 'faich prawf wedi'i wrthdroi'.

Ar ôl chwe mis, mae'r baich yn newid yn ôl i chi i brofi bod nam os ydych am wneud hawliad yn erbyn y masnachwr oherwydd bod y nwyddau'n ddiffygiol.

Gweler 'Gwerthu a chyflenwi nwyddau: eich hawliau i ddefnyddwyr' am fwy o wybodaeth

CYNNWYS DIGIDOL

Os darganfyddwch nam gyda'r cynnwys digidol o fewn chwe mis i'r dyddiad y'i cyflenwyd i chi, yna tybir bod y bai yno yn y dechrau. O ran nwyddau, cyfeirir at hyn yn gyffredinol fel y 'baich prawf a gaiff ei wrthdroi'.

Ar ôl chwe mis, mae'r baich prawf yn newid yn ôl i chi i brofi bod nam os ydych am wneud hawliad yn erbyn y masnachwr oherwydd bod y cynnwys digidol yn ddiffygiol.

Gweler 'Cyflenwi cynnwys digidol: eich hawliau defnyddiwr'.

GWASANAETHAU

Os na chaiff gwasanaeth ei gyflawni gyda gofal a medrusrwydd rhesymol, am bris rhesymol, o fewn amser rhesymol neu os na chaiff ei gyflawni yn unol â gwybodaeth a roddir i chi (boed ar lafar neu'n ysgrifenedig) yna mae'r masnachwr yn torri'r contract. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i rhwymedi ond efallai y bydd angen i chi brofi eich hawliad.

Gweler 'Cyflenwi gwasanaethau: eich hawliau fel defnyddiwr'.

TELERAU ANNHEG MEWN CONTRACTAU A HYSBYSIADAU DEFNYDDWYR

Os ydych yn credu bod rheolau contract (a elwir yn delerau) rhyngoch chi a masnachwr yn annheg oherwydd eu bod wedi'u pwysoli'n drwm o blaid y masnachwr ac felly'n rhoi mwy o faich arnoch, mae gennych hawl i'w herio. Mae hysbysiadau sy'n 'hysbysiadau defnyddwyr' hefyd wedi'u cynnwys ac ni ddylent wadu neu gyfyngu ar gyfrifoldeb masnachwr i chi. Mae'r mathau hyn o hysbysiadau i'w cael yn aml mewn meysydd parcio, cyfleusterau hamdden ac ar wefannau. Mae gennych hawl i gwyno am derm neu rybudd sy'n annheg yn eich barn chi ond efallai y bydd angen i chi brofi'ch achos.

Gweler 'Telerau annheg mewn contractau a hysbysiadau defnyddwyr'.

MASNACHU ANNHEG

Os byddwch yn ymrwymo i gontract ar ôl i fasnachwr eich camarwain neu oherwydd bod masnachwr wedi defnyddio ymarfer masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau iawndal i chi: yr hawl i ddadddirwyn y contract, yr hawl i ddisgownt a'r hawl i iawndal. Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch cais. Mae'r canllaw 'Ymarferion camarweiniol ac ymosodol: hawliau iawndal' yn rhoi mwy o wybodaeth.

CONTRACTAU DEFNYDDWYR

O dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013, mewn perthynas â chontract gwerthu (contract ar gyfer gwerthu nwyddau neu gyflenwi nwyddau gyda gwasanaeth), mae gennych hawl i wirio'r nwyddau ar ôl eu danfon (fel y byddech mewn siop) i wneud yn siwr eich bod yn hapus â nhw.

Os byddwch yn penderfynu canslo a dychwelyd y nwyddau a bod y masnachwr yn credu eich bod wedi'u defnyddio'n fwy nag sy'n angenrheidiol i benderfynu a ydynt yn addas, efallai y byddant yn gallu hawlio iawndal gennych, hyd at bris y contract. Gall masnachwr ddidynnu hwn o'r swm yr ydych i fod i gael ei ad-dalu, neu rhaid ei dalu gennych chi i'r masnachwr. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys os na wnaeth y masnachwr roi'r wybodaeth ofynnol gyfreithiol i chi am yr hawl i ganslo'r contract. Y mae yn ddoeth i gadw tystiolaeth o gyflwr y nwyddau cyn i chi eu dychwelyd.

Mae'r canllawiau 'Prynu o'r cartref: egluro contractau oddi ar y safle' a 'Phrynu ar y rhyngrwyd, ffôn ac archebu drwy'r post: egluro contractau o bell' yn egluro'r rheolau'n fanylach.

PA FATH O DYSTIOLAETH DDYLECH CHI EI CHAEL?

Os ydych mewn anghydfod gyda masnachwr ynghylch contract ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaeth neu gynnwys digidol, mae'n hanfodol eich bod gyda tystiolaeth i brofi eich hawliad. Edrychwch ar yt awgrymiadau canlynol:

  • yn dibynnu ar y math o nwyddau, gwasanaethau a chynnwys digidol a gyflenwir a ble cafodd y contract ei wneud, efallai y bydd rhaid i'r masnachwr roi gwybodaeth bwysig benodol i chi, megis manylion y contract, trefniadau talu, darparu, gwasanaeth ôl-werthu a manylion unrhyw bolisi sy'n ymwneud â delio â chwynion a all fod ganddynt. Bydd y wybodaeth hon yn ganllaw defnyddiol i ba dystiolaeth y mae angen i chi ei chasglu
  • cadwch ffolder o'r holl ddogfennau perthnasol eraill, megis yr hysbyseb wreiddiol (os yw'n berthnasol), eich archeb, cydnabyddiaeth/cadarnhad o'r archeb, y cytundeb credyd (os yn berthnasol), arolygon neu luniadau, y dderbynneb, negeseuon e-bost, gohebiaeth ac unrhyw warant.
  • ysgrifennwch ddatganiad o ddigwyddiadau mewn trefn dyddiad gan gadw'r wybodaeth ddiweddaraf
  • gwnewch nodyn o enwau'r bobl y gwnaethoch gysylltu â hwy am eich anghydfod a'u rôl o fewn y busnes
  • lle bo'n briodol, tynnwch luniau neu fideos o'r broblem-er enghraifft, y nwyddau diffygiol, crefftwaith gwael neu lety gwyliau o safon is na'r cyffredin
  • gwnewch restr o waith is-safonol a rhestr o unrhyw waith sy'n weddill
  • os ydych yn dychwelyd nwyddau ar ôl canslo contract, dylech ystyried tynnu ffotograffau neu fideos i ddangos na chafodd y nwyddau eu trin y tu hwnt i'r hyn a oedd yn angenrheidiol i fodloni eich hun eu bod yn foddhaol
  • ar gyfer cynnwys digidol, cymerwch brint sgrin ar eich cyfrifiadur neu liniadur, neu defnyddiwch ddyfais arall i gymryd fideo o'r sgrin fel tystiolaeth o'r broblem
  • os oes tyst i'r broblem neu'r digwyddiad, gofynnwch iddynt a fyddant yn rhoi cyfrif ysgrifenedig i chi fel tystiolaeth ategol
  • gwiriwch safleoedd adolygu ar-lein - efallai y byddwch yn dod o hyd i rywun arall gyda chwyn tebyg gallai hyn gefnogi'r hyn yr ydych yn ei ddweud
  • cadwch unrhyw rannau neu ddeunyddiau sy'n cael eu symud neu eu hamnewid; efallai y bydd eu hangen arnoch fel tystiolaeth o'r nam ar ddyddiad diweddarach
  • os ydych wedi cael gwaith adferol a wnaed gan fasnachwr arall, gofynnwch am fil fesul eitem neu'n well byth gofynnwch iddynt ysgrifennu adroddiad i chi am y gwaith a gyflawnwyd ganddynt a'r rhesymau pam yr oedd angen
  • mynnwch brisiad o'r gwaith a wnaed gan y masnachwr hyd at y dyddiad hwnnw
  • cadwch gofnod o'ch costau poced a'u derbynebau; efallai y byddwch yn gallu eu hawlio'n ôl
  • cadwch ddeunydd pacio a'r cyfarwyddiadau i'w defnyddio; gallent fod yn ddefnyddiol
  • os byddwch yn ysgrifennu at y masnachwr, cadwch y dystysgrif postio neu slip danfon cofnodedig
  • os ydych chi'n e-bostio'r masnachwr, cadwch yr atebion awtomatig a'r derbynebau darllen - os ydych chi'n derbyn nhw
  • gall y masnachwr gael ffurflen adrodd ar-lein y gallwch ei defnyddio i gyflwyno eich cwyn.  Efallai y byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau'r hyn rydych wedi'i gyflwyno sy'n dystiolaeth o'ch cwyn
  • os yw masnachwr yn eich darparu â chynnwys digidol sy'n difrodi eich dyfais (fel eich ffôn symudol neu liniadur) neu ei fod yn achosi niwed i gynnwys digidol arall, na fyddai wedi digwydd pe bai'r masnachwr wedi cymryd gofal rhesymol, gasglu tystiolaeth ar eich colled i wneud cais am atgyweiriadau neu iawndal
  • darllenwch delerau ac amodau'r contract yn ofalus, tynnwch sylw at unrhyw delerau sy'n annheg yn eich barn chi a gwnewch nodyn o'r rhesymau pam
  • tynnwch lun o hysbysiad sy'n annheg yn eich barn chi a chadwch gofnod o'r rhesymau pam

Os yw masnachwr yn rhoi gwybodaeth ffug i chi am y nwyddau, y gwasanaeth neu'r cynnwys digidol, mae cyflwyniad cyffredinol y nwyddau, y gwasanaeth neu'r cynnwys digidol yn gamarweiniol neu maent yn defnyddio ymarfer masnachol ymosodol (fel rhoi pwysau wrth werthu) efallai y bydd angen i chi gael mwy o dystiolaeth y gallwch ei defnyddio wrth wneud eich hawliad - er enghraifft:

  • manylion yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl a thystiolaeth o'r hyn a gawsoch mewn gwirionedd. Er enghraifft, pe baech yn dewis masnachwr oherwydd eu bod yn hysbysebu eu bod yn aelod o gymdeithas fasnach a bod hyn ddim yn wir, dylech gadw copi o'r hysbyseb a chael cadarnhad ysgrifenedig gan y gymdeithas fasnach nad yw'r masnachwr yn aelod
  • os cawsoch eich camarwain i ymrwymo i gontract oherwydd gwybodaeth ffug mewn taflen neu ar wefan y masnachwr, cadwch y daflen fel tystiolaeth, argraffwch neu tynnwch lun o'r dudalen berthnasol ar y wefan
  • pe baech yn gwerthu nwyddau i fasnachwr a'ch bod yn cytuno i bris sy'n is na'r pris farchnad am eu bod yn dweud celwydd wrthych am eu hansawdd, dylech gael pris cywir y farchnad am y nwyddau a chael tystiolaeth o'r pris a roddodd y masnachwr i chi
  • petaech yn llofnodi contract am fod masnachwr wedi gwrthod gadael eich cartref nes i chi fynd ymlaen ac wedi cytuno i'r contract, cadwch gofnod ysgrifenedig manwl o'r digwyddiad i'w ddefnyddio fel tystiolaeth
  • manylion unrhyw golledion ariannol y gwnaethoch eu dioddef o ganlyniad i daliad a wnaethoch i'r masnachwr oherwydd efallai y gallwch hawlio iawndal. Efallai y bydd gennych hawl hefyd i hawlio iawndal am larwm, trallod, anghyfleustra corfforol neu anghysur a achosir i chi.

BARN ARBENIGWYR: BETH SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD

Os nad yw'r masnachwr yn derbyn unrhyw dystiolaeth y byddwch yn ei chyflwyno i gefnogi'ch cais a'ch bod yn parhau mewn anghydfod, efallai y bydd angen i chi gael barn arbenigol i ganfod beth yw'r broblem, sut y cafodd ei hachosi, beth y bydd yn ei wneud i ddatrys y broblem a phwy sydd ar fai.

I ddechrau, efallai y byddwch yn gallu cael barn masnachwr arall sy'n darparu'r un nwyddau, gwasanaeth neu gynnwys digidol â'r masnachwr yr ydych yn anghytuno ag ef. Mae'n bosibl y bydd yr ail fasnachwr yn gallu cynnig arweiniad i chi fel y gallwch gysylltu â'r masnachwr yn gyntaf gyda pheth wybodaeth i gefnogi eich hawliad. Fodd bynnag, ni fydd pob masnachwr yn barod i gymryd rhan mewn anghydfod.

Os yw'r masnachwr yr ydych mewn anghydfod â hwy yn aelod o gymdeithas fasnach, mae'n bosibl mai rhan o wasanaeth y gymdeithas fasnach honno fydd cynnig cymodi neu gymrodeddu, gan gynnwys archwiliad ac adroddiad gan arbenigwr y talwyd amdano ar sail ' collwr yn talu '.

Efallai y byddwch yn gallu dod i gytundeb gyda'r masnachwr i gael adroddiad annibynnol ar y cyd, gan rannu'r gost efallai fel y gall y ddau ohonoch fod yn fodlon ynghylch didueddrwydd y farn. Wrth gwrs, nid oes rhaid i'r masnachwr gytuno i hyn, ond os byddwch yn gwneud y cais hwn yn ysgrifenedig a bod y masnachwr yn ei wrthod, efallai y byddant yn ei chael yn anodd dadlau'n ddiweddarach eu bod wedi gweithredu'n rhesymol.

Os cewch eich adroddiad annibynnol eich hun, dylech hysbysu'r masnachwr yn ysgrifenedig o'ch bwriadau cyn i chi fynd ymlaen. Cadwch gopïau o'ch holl ohebiaeth. Os bydd yr adroddiad o'ch plaid, efallai y gallwch hawlio cost yr adroddiad yn ôl yn ogystal â datrys y broblem neu hawlio'r gost o unioni'r sefyllfa.

Y terfyn ar y swm y gallwch ei hawlio yn nhrac hawliadau bach y Llys Sirol yw £10,000. Ni chaiff y llys dderbyn adroddiad yr ydych wedi ei gael cyn cymryd camau cyfreithiol a gall eich cyfarwyddo chi a'r masnachwr i benodi un arbenigwr. Os nad ydych chi a'r masnachwr yn gallu cytuno ar y dewis o arbenigwr neu'r trefniadau ar gyfer talu ffi'r arbenigwr, yna mae'n rhaid i chi neu'r masnachwr wneud cais i'r llys am gyfarwyddiadau pellach. Yna byddai'r llys yn gwneud penderfyniad am yr arbenigwr. Y terfyn ar gyfer ffioedd adennill arbenigwyr yn y llys yw £750.

Mae'r canllaw 'Ysgrifennu llythyr cwyn effeithiol' yn cynnwys llythyr templed at fasnachwr yn gofyn iddo ystyried adroddiad arbenigol ar y cyd.

BLE ALLWCH CHI DDOD O HYD I ARBENIGWR?

Weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i arbenigwr annibynnol felly cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am arweiniad. Edrychwch ar hysbysebion, gwefanau, negeseuon e-byst a dogfennau busnes y masnachwr i weld a ydynt yn hawlio eu bod yn aelod o gymdeithas fasnach. Os ydyn nhw, cysylltwch â llinell gymorth defnyddwyr y gymdeithas fasnach i gael cyngor ar sut i gwyno am aelod. Os nad ydych yn siwr a yw'r masnachwr yn aelod o gymdeithas fasnach, gweler y canllaw 'Cymdeithasau masnach a chyrff rheoleiddio', sydd â rhestr o fanylion cyswllt ar gyfer rhai o'r prif gymdeithasau. Gallwch hefyd ymchwilio i gymdeithasau masnach ar-lein.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd cael barn annibynnol, ystyriwch ddefnyddio dulliau amgen o ddatrys anghydfodau fel ffordd o ddatrys eich cwyn heb fynd i'r llys (mae'r canllaw Meddwl am fynd ag achos i'r Llys Sirol? yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu). Bydd y dystiolaeth yr ydych wedi'i chael hyd yma yn ddefnyddiol i'ch achos.

BETH DDYLAI ADRODDIAD YR ARBENIGWR EI GYNNWYS?

Dylech sicrhau bod eich arbenigwr yn cynnwys y canlynol yn eu hadroddiad:

  • dadansoddiad llawn o natur y broblem
  • beth yw achos neu achos tebygol y broblem a pham - er enghraifft, crefftwaith gwael, diffyg cynhenid, cydrannau diffygiol
  • beth sydd angen ei wneud i unioni'r broblem
  • cost y gwaith cywirol
  • os yw'n berthnasol, dylid cynnwys ffotograffau, diagramau, cynlluniau ac ati hefyd
  • dylai'r sawl sy'n rhoi'r farn hefyd roi manylion eu cymwysterau, eu manylion personol a'u profiad
  • datganiad o wirionedd yn gwirio'r adroddiad

Os nad ydych yn siwr ynghylch cael adroddiad, gofynnwch i'r arbenigwr ddangos enghraifft i chi o'r math o adroddiadau y maent yn eu cynhyrchu. Dylech bob amser ganfod faint fydd yr adroddiad yn ei gostio, gan gadw mewn cof derfyn £750 ar adennill costau'r arbenigwr yn y llys.

BETH I'W WNEUD OS BYDD PETHAU'N MYND O CHWITH

Mae'r canllawiau 'Gwerthu a chyflenwi nwyddau: beth i'w wneud os fydd pethau'n mynd o'i le', 'Cyflenwi gwasanaethau: beth i'w wneud os pethau'n mynd o'i le  a 'Chyflenwi cynnwys digidol: beth i'w wneud os fydd pethau'n mynd o'i le' yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn y i'w wneud os ydych mewn anghydfod gyda masnachwr.

YN Y DIWEDDARIAD HWN

Dim newidiadau mawr

Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Hydref 2023

DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL

Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2024 itsa Ltd.

Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out