Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Ysgrifennu llythyr cwyn effeithiol



.

Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu'r cynnwys digidol a gyflenwir gan fasnachwr yn foddhaol, ond weithiau bydd pethau'n mynd o chwith a byddwch eisiau cwyno.

Gallwch gwyno yn bersonol neu dros y ffôn ond gwnewch yn siwr eich bod yn mynd ar drywydd hyn yn ysgrifenedig hefyd fel bod cofnod o'ch cwyn.

Gallwch hefyd drefnu i'r masnachwr eich ffonio, defnyddio ffurflen gyswllt ar-lein, sgwrs we neu'r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o adrodd cwyn.

I gael y canlyniad gorau posibl, ewch drwy'r pwyntiau canlynol cyn i chi gysylltu â'r masnachwr:

  • ar gyfer y rhan fwyaf o gontractau, ond nid pob un, mae'n rhaid i'r masnachwr roi gwybodaeth bwysig benodol i chi, fel gwybodaeth ôl-werthu a manylion unrhyw bolisi ymdrin â chwynion a all fod ganddynt. Gwiriwch hyn cyn i chi gwyno
  • os nad yw'r masnachwr yn darparu gwybodaeth ôl-werthu neu fanylion am bolisi ymdrin â chwynion, mae angen i chi ddarganfod at bwy ac i le i gwyno. Edrychwch ar wefan y masnachwr, y cyfryngau cymdeithasol, cefn y dderbynneb, y ffurflen archebu neu'r nodyn danfon am fanylion
  • yn dibynnu ar sut mae masnachwr yn delio â materion gwasanaeth cwsmeriaid, cysylltu â'r person neu'r adran a awdurdodwyd i ddelio â chwynion. Gwiriwch i wneud yn siwr eich bod yn defnyddio'r manylion cyswllt cywir. Os byddwch yn ysgrifennu'n uniongyrchol at gangen gallwch hefyd anfon copi o'ch llythyr neu e-bost i'r brif swyddfa
  • mae'r rhan fwyaf o fasnachwyr mawr yn annhebygol o fod ag unigolyn a enwir i gwyno iddo; efallai bod ganddynt gyfeiriad e-bost cyffredinol neu ffurflen gyswllt ar gyfer cwynion cwsmeriaid
  • cadwch gopi o'ch cwyn
  • cadwch unrhyw gydnabyddiaeth e-bost o'ch cwyn y byddwch yn ei dderbyn
  • ddefnyddiwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y masnachwr i adrodd cwyn, ond cymerwch ofal am y wybodaeth a ddatgelir gennych os yw eich neges yn weladwy i eraill
  • gwiriwch fforymau cwyno ar-lein am ragor o wybodaeth cyn i chi gysylltu â'r masnachwr. Efallai y bydd gan bobl eraill yr un broblem â chi
  • dyfynnwch rhifau archeb perthnasol, rhifau cyfeirnod a rhifau anfonebau i'w gwneud yn haws i'r masnachwr i gysylltu eich cwyn â'ch archeb
  • byddwch yn gwrtais ac at y pwynt. Efallai y bydd pwyntiau gwirioneddol o bryder yn mynd ar goll mewn cwyn hir.
  • dyfynnwch ddyddiadau neu ddigwyddiadau a'r holl faterion am eich cwyn
  • os byddwch yn anfon llythyr ysgrifennedig, sicrhewch ei fod yn hawdd i'w ddarllen. Gofynnwch am gymorth os bydd angen
  • sicrhewch orau y gallwch nad 'gwall defnyddiwr' yw'r broblem
  • dewch yn gyfarwydd â'ch hawliau. Er enghraifft, a ydych chi'n dychwelyd nwyddau o fewn 30 diwrnod i gael ad-daliad, a oes gennych ddiogelwch ychwanegol oherwydd eich bod wedi talu gyda cherdyn neu ar gyllid? Oes gennych warant neu gwarant? Gall fod yn ddefnyddiol hysbysu'r masnachwr eich bod wedi ceisio am gyngor cyfreithiol
  • os oes modd, dyfynnwch y gyfraith yr ydych yn gwneud eich hawliad am, a gwnewch yn glir beth yw eich hawliau cyfriethiol
  • byddwch yn glir ynghylch y canlyniad yr ydych yn edrych amdano a beth rydych am i'r masnachwr ei wneud i ddatrys eich cwyn
  • efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i'r masnachwr er mwyn cefnogi eich cwyn, megis copïau o'ch dogfennau (derbynneb, e-byst a llythyrau) yn ogystal ag unrhyw beth arall y credwch y bydd yn profi eich achos, megis lluniau a fideos
  • peidiwch ag anfon copïau o ddatganiadau banc/cerdyn credyd oherwydd y risg o'ch adnabyddiaeth yn cael ei dwyn
  • gweithredwch yn gyflym oherwydd gall oedi weithiau effeithio ar yr hyn y mae gennych hawl iddi
  • rhowch amser rhesymol i'r masnachwr ymateb i chi
  • byddwch yn ddyfal a chwynnwch eto os na chewch ymateb i'ch un cyntaf
  • mae copïau o lythyrau, negeseuon e-bost, lluniau sgrin o'ch dyfais a dogfennau eraill yn dystiolaeth ddefnyddiol os ydych yn cyfeirio eich cwyn at gymdeithas fasnach, corff rheoleiddio, yn defnyddio unrhyw fath arall o ddatrys anghydfod amgen neu os ydych yn cymeryd achos yn y llys
  • os bydd angen i chi ar unrhyw adeg wirio eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth

TEMPLEDI

Os nad ydych yn siwr beth i'w ysgrifennu, yna defnyddiwch y templedi canlynol (wedi'u hatodi mewn fformat Word). Lle rydych yn cael dewis o eiriau i'w defnyddio, gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio'r rhai cywir.

Os ydych am wybod beth yw eich hawliau cyfreithiol a beth y mae gennych hawl i'w cael, mae canllawiau i ddefnyddwyr ar y wefan hon yn rhoi gwybodaeth fanwl. 

Nwyddau: peidio â chyflawni
Nwyddau: lleihau prisiau neu hawl derfynol i wrthod
Nwyddau: ad-daliad
Nwyddau: atgyweirio neu amnewid
Gwasanaethau: yn cael eu cynnal o fewn amser rhesymol
Gwasanaethau: gwybodaeth sy'n rhwymo gyda'r gyfraith
Gwasanaethau: lleihau prisiau
Gwasanaethau: pris rhesymol i'w dalu
Gwasanaethau: perfformiad ailadroddus
Cynnwys digidol: difrod a achosir i ddyfais neu gynnwys digidol arall
Cynnwys digidol: lleihau pris
Cynnwys digidol: hawl i gyflenwi (ad-daliad)
Cynnwys digidol: atgyweirio neu amnewid
Arwerthiant oddi ar y safle: canslo
Dychwelyd nwyddau a brynwyd o bell
Hawl i unioni cam: hawl i iawndal
Hawl i unioni cam: yr hawl i ddisgownt
Hawl i unioni cam: dirwyn y contract i ben
Atgyweirio gwaith adeiladu
Oedi yn y gwaith adeiladu
Atgyweirio ffenestri dwbl diffygiol
Teithiau mewn awyren: iawndal am oedi cyn hedfan
Teithiau mewn awyren: iawndal am daith awyren wedi'i ganslo
Teithiau mewn awyren: iawndal am eich gwrthod rhag cael mynediad i awyren
Teithiau mewn awyren: ad-daliad am gael eu hisraddio
Cwyn am wyliau pecyn
Ad-daliad am gar diffygiol
Atgyweirio car diffygiol
Ceir wedi'u hatgyweirio yn anfoddhaol
Dal cwmni cyllid yr un mor atebol mewn anghydfod gyda masnachwr
Gofyn i fasnachwr ystyried adroddiad arbenigol ar y cyd
Llythyr cyn achos llys

YN Y DIWEDDARIAD HWN

Templedi wedi'u diweddaru

 

Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 2023

DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL

Nid oes deddfwriaeth allweddol ar gyfer y canllaw hwn

Noder

Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.

Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahân i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

© 2024 itsa Ltd.

Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out