Cyngor Sir Caerfyrddin yn cymryd camau yn erbyn masnach tybaco anghyfreithlon
Fe wnaeth Tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin erlyn achos sylweddol yn ymwneud â gwerthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon yn Llanelli. Mae'r achos, Rex (Cyngor Sir Caerfyrddin) v. Aran Baker a Shoresh Salih Mhmood, yn ymwneud â gwerthu sigaréts a thybaco ffug yn y safle masnachu a adwaenir fel Grosik, yn 11 Stryd Cowell, Llanelli. Plediodd y diffynyddion, Aran Baker o 3 Penciliogi Cottages