Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Masnachwr a werthodd gerbyd peryglus yn cael ei garcharu a’i orchymyn i dalu iawndal


Roedd Alan Peter LEWIS, o APL Cars, Sgiwen, wedi cael ei ganfod yn euog o’r cyhuddiad cyn hynny, dan Reoliadau Diogelwch Cyffredinol Cynhyrchion, ym mis Rhagfyr 2023.

Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe ar 25 Ionawr, 2024, dyfarnodd y Barnwr Geraint Walters Mr Lewis i chwe mis yng ngharchar. Gorchmynnodd y Barnwr Walters hefyd y dylai’r diffynnydd dalu £2,000 o iawndal yn sgil gwerthu’r cerbyd.

Clywodd y llys fod y cwynwr benywaidd a brynodd y cerbyd oddi wrth Mr Lewis wedi cysylltu’n wreiddiol â’r gwasanaeth i ddefnyddwyr a gynhelir gan Gyngor ar Bopeth ar ôl i’w garej lleol ei gondemnio.

Yna, trefnodd tîm Safonau Masnach y cyngor i archwiliad arall ddigwydd, a ganfu yn ei dro fod y cerbyd yn anniogel pan werthwyd ef ym mis Ionawr 2022.

Gan gyfeirio at Mr Lewis yn ei sylwadau dedfrydu, dywedodd y Barnwr Walters wrth nad oedd ganddo ddim profiad mewn gwerthu cerbydau modur, ond iddo fentro i’r busnes gan brynu ceir mewn ocsiwn a’u gwerthu ymlaen.

Ychwanegodd: “Yn yr achos hwn, fe werthoch chi gerbyd modur a phan aeth y cwsmer i gael prawf MOT adeg ei adnewyddu bum mis ar ôl iddi’i brynu, derbyniodd hysbysiad methu a chyfarwyddyd na allai’r cerbyd adael y garej oherwydd ei gyflwr peryglus.

‘Dywedodd tystiolaeth arbenigol a roddwyd i’r rheithgor mai’r unig ffordd y gellid disgrifio’r cerbyd oedd peryglus ac na ddylai byth fod wedi bod ar yr heol.”

Dywedwyd wrth y llys fod y cerbyd wedi cael ei yrru am bum mis wedi’r gwerthiant, ac ar unrhyw eiliad y gallai fod wedi methu, a allai fod wedi peryglu bywyd y cwsmer a bywydau defnyddwyr eraill yr heol.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae Safonau Masnach yn croesawu’r ddedfryd a roddwyd i Alan Lewis, o ystyried difrifoldeb y drosedd ac agwedd y diffynnydd i’w gyfrifoldeb i gydymffurfio â’r gyfraith.

“Mae Safonau Masnach yn ystyried gwerthu ceir sydd ddim yn ffit i fod ar yr heol a cheir a gamddisgrifir yn ddifrifol iawn. Gwerthiant ceir ail law sy’n para i fod y sector masnach y cwynir fwyaf amdano o hyd, a’n gobaith ni yw bod hyn yn anfon y neges gywir i fusnesau diegwyddor.
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out