Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Safonau Masnach Cyngor Sir Ddinbych yn targedu gwerthiannau fêp i blant dan oed


Yn dilyn canllaw a ddarparwyd gan Safonau Masnach i fusnesau Sir Ddinbych ynghylch fêp a gwerthiannau dan oed, mae swyddogion safonau masnach wedi bod yn cynnal cyfres o bryniannau prawf ar draws y sir.

Mae ymarferion prawf prynu yn cynnwys gwirfoddolwr dan oed, sydd yn gweithredu dan oruchwyliaeth swyddogion safonau masnach, yn ymgeisio i brynu cynnyrch gyda chyfyngiad oedran lle nad ydynt yn gyfreithiol ddigon hen i’w prynu.

Bu i Operation Cloud dargedu manwerthwyr sydd yn gwerthu e-sigaréts, gan ymweld â 29 eiddo ar draws Sir Ddinbych. Bu i naw o’r busnesau hynny fethu ag atal y gwerthiant, gan roedd y gwirfoddolwr 15 oed yn gallu prynu e-sigaret heb gyflwyno cerdyn adnabod.

Yn un o’r eiddo hyn, roedd y gwirfoddolwr yn gallu prynu fêp anghyfreithlon na ddylai fod ar gael ar farchnad y DU. Mae hyn oherwydd faint o hylif sydd o fewn y tanc, problemau labelu, ac nid yw’n gynnyrch sydd wedi cofrestru gydag Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Gofal Iechyd. Arweiniodd hyn at atafaeliad o stoc yn yr eiddo. 

Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed i brynu e-sigaret, ac mae cyfreithiau mewn perthynas â chynnyrch gyda chyfyngiad oedran mewn lle i ddiogelu pobl ifanc.

“Mae’n siomedig gweld naw busnes wedi gwerthu’r cynnyrch hyn i blentyn 15 oed. Fodd bynnag, mae’n bwysig amlygu bod 20 eiddo wedi gofyn am gerdyn adnabod ac/neu wedi gwrthod gwerthu. Mae’r cynnyrch hyn yn cynnwys nicotin, sydd yn sylwedd eithaf caeth a ni ddylai plant allu cael mynediad at y cynnyrch hyn.

“Rwy’n sicr y bydd Safonau Masnach Sir Ddinbych yn parhau i ymweld ag unrhyw eiddo sydd yn gwerthu’r eiddo hyn a bydd y busnesau hynny sydd wedi methu yn cael eu harchwilio, a chamau gweithredu priodol yn cael eu cyflawni.”

Gall fusnesau gysylltu â’r Tîm Safonau Masnach Sir Ddinbych i gael cyngor ar gynnyrch fêp ar wefan Sir Ddinbych.

Yn ogystal mae’r Cyngor yn cynghori os yw preswylwyr yn ymwybodol o fusnesau yn Sir Ddinbych yn gwerthu cynnyrch fêp sydd ddim yn cydymffurfio, neu yn eu gwerthu i unigolion dan oed, gallent eu riportio drwy linell gymorth Cymraeg defnyddiwr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144, neu’r llinell cyfrwng Saesneg ar 0808 223 1,0133, neu ewch ar-lein.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out