Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Töwr twyllodrus yn cael dedfryd o garchar wedi’i ohirio


Mae töwr twyllodrus a fu’n gwneud gwaith diangen ar gartref pâr agored i niwed, ac a gododd filoedd o bunnoedd arnyn nhw, wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod o 15 mis yn y carchar, wedi’i ohirio.

Cafodd Toby Price o Broadmoor ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 6 Tachwedd, yn dilyn ymchwiliad llwyddiannus ac erlyniad a gyflwynwyd gan adran Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro.

Cyfaddefodd Price bedwar cyhuddiad o dwyll ac un drosedd o gymryd rhan mewn arfer masnachol camarweiniol trwy hepgor gwybodaeth gytundebol gan gynnwys hawliau canslo.

Clywodd y llys fod Price yn masnachu fel ‘Best Price Roofing Services’, pan gysylltodd y dioddefwr ag ef ynghylch teilsen to wedi llithro a oedd wedi achosi darn llaith ar nenfwd i fyny'r grisiau.

Ymwelodd Price â nhw gan roi dyfynbris o £800 iddynt am y gwaith, gan honni ar gam mai'r gost uchel oedd yswiriant rhag ofn iddo gael damwain. Dywedodd contractwr annibynnol yn ddiweddarach y dylai'r gwaith atgyweirio fod wedi costio tua £80 a TAW.

Tra roedd yno, honnodd Price ei fod wedi sylwi bod y simnai ar ogwydd neu’n gam ac yn amcangyfrif mai £8,000 fyddai cost y gwaith atgyweirio. Dywedodd wrth y dioddefwr y byddai'n gwneud y gwaith am rhwng £4,000 a £5,000. 

Pan ddywedodd y dioddefwr y byddai'n meddwl amdano, dywedodd Price y gallai'r simnai ddisgyn ac o bosibl anafu gwraig y dioddefwr a oedd wedi'i chyfyngu i raddau helaeth i'r ystafell fyw oherwydd cyflyrau iechyd.

Roedd y dioddefwr yn teimlo dan bwysau ac yn poeni am ddiogelwch ei wraig a chytunodd i'r gwaith atgyweirio. Treuliodd Price tua 30-45 munud ar y to gyda thrywel a bwced o sment. Cododd £4,500 am y gwaith.

Yn ddiweddarach, archwiliodd contractwr annibynnol y simnai a dywedodd ei bod yn ddiogel ac nad oedd ar ogwydd nac ar gam.Roedd gwaith rendro o ansawdd gwael wedi cael ei wneud ac amcangyfrifir ei fod wedi costio tua £100 a TAW.

Cafodd y twyll ei ddarganfod pan fynychodd cwmni cynnal a chadw arferol y dioddefwr yn ddiweddarach a chysylltu â'r Cyngor.

Nid oedd y rhif ffôn ar y cerdyn busnes a ddarparwyd gan y diffynnydd yn gweithio, a phan gysylltodd Safonau Masnach ag ef ar rif arall a ddarparwyd i'r dioddefwr, honnodd y dyn a atebodd ei fod yn rhif anghywir.

Mae'r effaith ar y dioddefwr a'i wraig wedi bod yn ddwys, gan achosi straen a phryder iddynt am golli eu cynilion.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Rheoleiddio: "Rwy'n croesawu'r ddedfryd a roddwyd i Price heddiw ac rwy'n diolch i'r tîm Safonau Masnach am eu gwaith diwyd ar yr erlyniad hwn.

"Fe wnaeth Price dargedu pâr bregus gan godi swm hollol ormodol arnynt am waith nad oedd angen ei wneud

"Mae gweithredoedd Price wedi effeithio'n wael ar y dioddefwyr ac rwy'n gobeithio bod yr achos hwn yn dangos na fydd y Cyngor yn goddef y math hwn o ymddygiad dideimlad."

Cafodd Price ei ddedfrydu i 15 mis yn y carchar, wedi’u gohirio am 18 mis. Rhaid iddo gyflawni 250 awr o waith di-dâl, ac mae gofyniad iddo wneud 15 diwrnod o weithgarwch adsefydlu. Yn ogystal, rhaid i Price dalu £900 o iawndal i’r dioddefwyr.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out