Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Cyflwyno Gorchymyn Cau ar siop yn dilyn gwerthu fêps anghyfreithiol a gwerthu fêps i blant


Mae siop wedi cael gorchymyn i gau ar ôl i Swyddogion Safonau Masnach ddarganfod ei bod wedi bod yn gwerthu nwyddau anwedd a fêps anghyfreithlon i blant.

Cafodd Eazy Vapes ar Heol Aberhonddu, Merthyr Tudful orchymyn cau am dri mis yn dilyn ymchwiliad gan Safonau Masnach.

Clywodd Llys Ynadon Merthyr Tudful fod grwpiau mawr o blant wedi bod yn ymweld â'r ardal i brynu fêps a hefyd y niwsans yr oedd y siop yn ei achosi i fusnesau lleol eraill yn yr ardal. Dywedwyd wrth yr ynadon am y cynnydd hwn mewn niwsans ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, yn ogystal â'r troseddau o werthu'r nwyddau anwedd anghyfreithlon.

Cynhaliwyd ymchwiliad gan Safonau Masnach ac atafaelwyd fêps anghyfreithlon o siop ar ddau achlysur gwahanol. Canfuwyd nad oedd yr anwedd yn cydymffurfio â Rheoliadau Tybaco a Chynhyrchion Cysylltiedig 2016.

Rhoddwyd gorchymyn cau i Eazy Vapes ar Dachwedd 3, o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Dywedodd Michelle Symonds, Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Diogelu’r Cyhoedd: “Unwaith eto, mae’r Cyngor wedi cwblhau ymchwiliad llwyddiannus yn erbyn busnes problemus ym Merthyr Tudful. Mae’r gyfraith yno i amddiffyn y cyhoedd a pherchnogion busnes cyfreithlon, ond y tro hwn dangosodd Eazy vapes ddiystyrwch llwyr o’r awdurdod lleol, Heddlu De Cymru a’r gymuned ehangach.

"Roedd y siop yn cael effaith andwyol ar y gymuned leol a busnesau lleol oherwydd eu gweithgarwch anghyfreithlon parhaus a'u niwsans.

“Byddwn yn ceisio cymryd camau tebyg yn erbyn unrhyw eiddo arall yn ein Bwrdeistref Sirol sy’n masnachu mewn nwyddau anghyfreithlon ac yn gwerthu nwyddau â chyfyngiad oedran i blant.”

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out