Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Rhodd o £6,000 i fanc bwyd yn dilyn erlyniad gan Safonau Masnach


Mae perchennog busnes wedi cytuno i roi £6,000 i elusen ar ôl cael ei erlyn gan Safonau Masnach Ynys Môn. 
 
Ddydd Mercher (Mawrth 13eg), plediodd Duran Sasmaz, perchennog Siop Pysgod a Sglodion Aran, Llangefni, yn euog i godi 50c yn ychwanegol ar gwsmeriaid a oedd yn talu â cherdyn yn ddiarwybod iddynt. 
 
Mae hyn yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 a chafodd Mr Sasmaz ei orchymyn i dalu dirwy a chostau gwerth cyfanswm o £1,512.
 
Cytunodd hefyd i wneud cyfraniad i Fanc Bwyd Ynys Môn – yn dilyn awgrym gan swyddogion Safonau Masnach - gan nad oedd yn bosib dod o hyd i bob dioddefwr. 
 
Cyn 2018, roedd modd i fusnesau godi tâl rhesymol ychwanegol ar gwsmeriaid i adlewyrchu’r gost o hwyluso taliadau â cherdyn – cyn belled bod cwsmeriaid yn ymwybodol o hynny ymlaen llaw.  
 
Fodd bynnag, ers Ionawr 2018 nid yw busnesau’n cael codi tâl ychwanegol am dalu â cherdyn. Nid oes rhaid i fusnesau ddarparu cyfleusterau talu â cherdyn, ac mae nifer o fusnesau tebyg yn derbyn arian parod yn unig i osgoi talu costau ychwanegol yn gysylltiedig â darparu cyfleusterau talu â cherdyn. Mae modd i fusnesau hefyd wrthod taliadau â cherdyn os ydi’r swm yn is na’r isafswm gwariant y maent wedi’i bennu, cyn belled bod cwsmeriaid yn ymwybodol o hynny.   
 
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon bod Safonau Masnach Ynys Môn wedi derbyn cwynion yn ôl yn 2019 bod Siop Pysgod a Sglodion Aran yn codi 50c am dalu â cherdyn a bod poster ar y wal i hysbysu cwsmeriaid. 
 
Cynghorwyd y busnes ei bod hi bellach yn anghyfreithlon codi mwy ar gwsmeriaid sy’n talu â cherdyn er mwyn adennill costau yn gysylltiedig â hwyluso taliadau â cherdyn. Derbyniwyd rhagor o gwynion bod taliadau ychwanegol yn cael eu codi ond nad oedd unrhyw arwyddion yn cael eu harddangos. Fe arweiniodd hyn at anfon rhybudd ffurfiol terfynol at Mr Sasmaz ar ôl egluro’r sefyllfa.
 
Derbyniwyd cwyn arall ar 1 Mawrth 2023 a chynhaliwyd pryniant prawf ar 16 Mawrth, a gadarnhaodd bod 50c o wahaniaeth rhwng y taliad cerdyn a’r dderbynneb til.  Dywedodd Mr Sasmaz ei fod wedi ailgyflwyno’r taliad ychwanegol oherwydd costau cynyddol a’i fod yn codi’r tâl ar gwsmeriaid a oedd yn gwario llai na £15. Dywedodd ei fod bob amser yn rhoi gwybod i gwsmeriaid, ond bu iddo gyfaddef ei fod fel arfer yn coginio felly nid oedd yn dod i gysylltiad â chwsmeriaid yn aml iawn. 
 
Cadarnhaodd yr ymchwiliad, pe byddai’r tâl wedi cael ei godi pob tro y byddai rhywun yn talu â cherdyn y byddai’r elw oddeutu £12,000. Gan nad oedd yn bosib canfod gwerth pob taliad cerdyn unigol er mwyn cyfrifo’r taliadau cerdyn dan £15 yn unig, cytunodd y naill barti bod yr elw oddeutu £6,100. 
 
Eglurodd Trystan Owen, Prif Swyddog Gwarchod y Cyngor Sir Ynys Môn, “Fel arfer, pan fyddwn yn erlyn busnesau yn llwyddiannus mae dioddefwr wedi colli swm penodol o arian, ac mae’r Llys fel arfer yn mynnu bod iawndal yn cael ei dalu. Fodd bynnag, yn yr achos hwn nid oedd yn bosib dod o hyd i ddioddefwyr unigol, ac felly fe awgrymodd y swyddogion Safonau Masnach bod y llys yn ystyried gofyn i Mr Sasmaz, a oedd wedi syrthio ar ei fai, wneud cyfraniad i’r Banc Bwyd lleol fel arwydd o ewyllys da.”
 
Roedd y deilydd portffolio Gwarchod y Cyhoedd, Cynllunio a Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Nicola Roberts, yn croesawu’r erlyniad llwyddiannus, ac fe ychwanegodd,

“O ganlyniad i’r awgrym arloesol hwn gan ein swyddogion Safonau Masnach, mae Mr Roy Fyles o Banc Bwyd Ynys Môn eisoes wedi derbyn siec o £3,000, ac rydym wedi derbyn sicrwydd bod siec arall ar y ffordd.”

 

 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out