Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Gwaith yn parhau i atal fêps rhag cael eu gwerthu’n anghyfreithlon ac i blant dan oed ar Ynys Môn


Mae siop wedi gorfod cau ei drysau dros dro, yn sgil cais gan Dîm Safonau Masnach Cyngor Môn, i fynd i’r afael â fepio anghyfreithlon a dan oed.

Ar ddydd Mercher 14 Chwefror, cafodd Top G Convenience Store yng Nghaergybi ei gorfodi i gau ei drysau am gyfnod o 3 mis gan Lys Ynadon Caernarfon.

Roedd y Llys yn ymwybodol fod Tîm Safonau Masnach Ynys Môn wedi ymafael yn 975 o fêps tafladwy anghyfreithlon o’r eiddo rhwng mis Ebrill a Rhagfyr 2023.

Roedd pob un o’r fêps yn fwy na’r uchafswm capasiti cyfreithiol o 2ml (oddeutu 600 pwff), ac nid oeddynt yn cyd-fynd â gofynion rhybuddion iechyd pwysig.

Roedd yr Awdurdod wedi derbyn nifer o gwynion gan y cyhoedd, busnesau, Ysgol Uwchradd Caergybi a Heddlu Gogledd Cymru am y siop.

Yn ystod mis Awst 2023, aeth Swyddogion Safonau Masnach Ynys Môn ati i gwblhau gweithred, a chafodd Cyfarwyddwr y siop, Mr Rabar Saber, ei ddal yn gwerthu fêps i ddau wirfoddolwr 15 oed, heb gymryd unrhyw gamau i wirio eu hoed.

Clywodd y llys hefyd fod PC Lisa Thomas wedi gweld plentyn 15 oed arall yn prynu fêp o’r eiddo yn ystod mis Tachwedd 2023.

Wrth gyflwyno’r gorchymyn i gau’r siop am uchafswm o 3 mis, cadarnhaodd Llys Ynadon Caernarfon bwriad hyn, gan gyfeirio at y gweithredoedd troseddol yn ystod yr 8 mis diwethaf er gwaethaf y cyngor a’r rhybuddion cyson. 

Mae Mr Saber hefyd dan orchymyn i dalu ffi o £10,000 er mwyn talu am y costau o gael gwared ar y fêps tafladwy anghyfreithlon a gasglwyd.

Dywedodd Deilydd Portffolio Diogelu’r Cyhoedd, Nicola Roberts, “Mae ein Tîm Safonau Masnach yn parhau i weithio’n ddiflino gydag asiantaethau partner er mwyn tynnu cynnyrch anghyfreithlon a niweidiol oddi ar y strydoedd. Mae diogelu pobl rhag cynnyrch a all fod yn niweidiol yn bwysig tu hwnt wrth i ni geisio gwarchod llesiant y cyhoedd.”

Dywedodd, “Mae’r siop hon wedi parhau i anwybyddu deddfwriaethau fêpio sydd ar waith er mwyn diogelu’r cyhoedd.”

Mae trigolion a busnesau’n cael eu hannog i adrodd unrhyw bryderon sydd ganddynt o ran cynnyrch sy’n cael eu gwerthu i blant dan oed, cynnyrch sy’n cael eu gwerthu drwy ddirprwy neu gynnyrch fêpio sydd ddim yn cydymffurfio ar Ynys Môn i safonaumasnach@ynysmon.llyw.cymru

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out