Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Rhybuddio preswylwyr Castell-nedd Port Talbot am fasnachwyr stepen drws


Daw'r rhybudd ar ôl i dîm Safonau Masnach y cyngor dderbyn adroddiadau o fasnachwyr diwahoddiad yn gweithredu ar draws y sir, gan fynd at breswylwyr yn cynnig gwneud gwaith ar eu heiddo.

 

Mae gan gwsmeriaid mwy o hawliau pan maent yn prynu ar y stepen drws.

 

Ar gyfer gwaith a wneir mewn cartref preswylydd sy'n fwy na £42 mewn gwerth, mae'n ofynnol i fasnachwyr yn ôl y gyfraith ddarparu hawliau canslo. Mae hyn yn rhoi 14 diwrnod er mwyn canslo contractau.

 

Meddai'r Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet Castell-nedd Port Talbot a chanddo gyfrifoldeb dros Safonau Masnach a Diogelu'r Cyhoedd, "Rwyf am atgoffa preswylwyr i fod yn wyliadwrus o'r busnesau hyn ac osgoi dioddef o ganlyniad i fasnachwr twyllodrus. Peidiwch â theimlo pwysau i dalu am waith yn eich cartref eich hun.

 

"Cymerwch amser i ystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig, i gael dyfynbrisiau eraill a gwnewch eich ymchwil ar y busnes cyn cytuno i gytundeb. Peidiwch â thalu'r swm llawn cyn i unrhyw waith gael ei wneud, a threfnwch i wneud taliadau fesul cam ar gyfer gwaith mwy."

"Gwiriwch honiadau aelodaeth unrhyw sefydliadau masnachu neu gynlluniau cymeradwyaeth, neu defnyddiwch gynllun cymeradwyaeth masnachwr fel 'Buy with Confidence' i ddod o hyd i fasnachwr cymeradwy.

 

"Byddem hefyd yn gofyn, os oes rhywun yn cysylltu â chi yn y modd hwn neu os ydych yn derbyn unrhyw daflenni drwy'r post, i chi gysylltu â ni oherwydd gall ein helpu ni i atal rhywun arall rhag dioddef oherwydd y masnachwyr twyllodrus hyn."

Gall perchnogion tai a busnesau sy'n credu eu bod wedi dioddef o'r math hwn o sgâm ffonio llinell gymorth cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

Llun  o Samuel McGarrigle : Unsplash

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out