Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Gwerthwyr ar Facebook yn cyfaddef masnachu mewn nwyddau dylunwyr sy'n ffug


Mae dwy fenyw wedi cyfaddef eu bod yn gwerthu nwyddau dylunwyr ffug, gan ddefnyddio grwpiau gwerthu ar Facebook.

Roedd y menywod wedi sefydlu grwpiau gwerthu ac roeddent yn hysbysebu cannoedd o eitemau, gan gynnwys dillad Louis Vuitton, Michael Kors a Givenchy yn ogystal â chynhyrchion Nike ac Adidas, y cyfan oll yn ffug, a hynny am ffracsiwn o'r pris a argymhellir.

Fe wnaeth swyddogion o dîm Safonau Masnach Cyngor Torfaen hefyd ddod o hyd i esgidiau, bagiau ac Apple Airpods, y cyfan oll yn ffug, ar ôl cael gwarantau i chwilio eu heiddo

Yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 8 Rhagfyr 2022, fe wnaeth Tarin Jones, 25, o Ffordd Porthmawr, Northville, Cwmbran,  gyfaddef i dri achos o werthu a meddu ar nwyddau ffug. Rhoddwyd rhyddhad amodol iddi am gyfnod o 12 mis a’i gorchymyn i dalu costau o £419.85 i’r Cyngor yn ogystal â gordal dioddefwr o £22.  

Plediodd Hayleigh Matthews, 41 oed, o Cardigan Close, Croesyceiliog, Cwmbran, hefyd yn euog i dri chyhuddiad yn Llys Ynadon Cwmbrân ar 9 Chwefror 2023, a hynny am werthu Apple Airpods ffug, a meddu ar fagiau dylunwyr a oedd yn rhai ffug. Cafodd ddirwy o £350, ei gorchymyn i dalu costau o £400.12, a gordal dioddefwr o £35, sy'n cyfateb i gyfanswm o £785.12.

Rhoddwyd clod i’r ddwy am bledio’n euog yn gynnar.

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Dylai hyn gael ei ystyried yn rhwystr i bobl sy'n credu y gallant wneud arian drwy werthu nwyddau ffug drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

“Mae tîm Safonau Masnach Torfaen yn gweithio'n eithriadol o galed i fynd i'r afael â gwerthu a chyflenwi nwyddau ffug. Nid yn unig yw pobl sy'n cael eu dal yn gwerthu eitemau o'r fath yn wynebu’r perygl o gael dirwy, ond gellir hefyd ymchwilio i'w materion ariannol a gall y Llysoedd gymryd unrhyw arian neu asedau na allant brofi eu bod wedi'u hennill yn gyfreithlon. Maen nhw hefyd yn peryglu'r posibilrwydd o wynebu dedfryd o garchar.

 "Fel arfer mae ansawdd y nwyddau ffug yn wael ac weithiau gallant fod yn anniogel. Trwy brynu eitemau o'r fath, mae defnyddwyr yn cefnogi masnachwyr anghyfreithlon a throseddol, ac yn difetha enw da busnesau cyfreithlon. Rwy'n annog trigolion i beidio â phrynu nwyddau heblaw eu bod o werthwyr ag enw da neu’n achrededig."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am nwyddau ffug gysylltu â thîm Safonau Masnach Torfaen ar 01633 647623 neu e-bostio trading.standards@torfaen.gov.uk

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar https://www.torfaen.gov.uk/cy/Business/TradingStandards/Trading-Standards.aspx

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out