Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Cyfarwyddwr cwmni yn cael gorchymyn i dalu £9000 o iawndal a dedfryd ohiriedig am dwyll a dwyn


Yn dilyn ymchwiliad gan adran Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mae Nicholas REES, sef cyfarwyddwr cwmni tirlunio o Resolfen o'r enw “Total Landscaping Solutions Ltd”, a fanteisiodd ar ddefnyddwyr agored i niwed ac a wnaeth honiadau anwir, wedi cael dedfryd o wyth mis o garchar, sydd wedi'i gohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i dalu £9000 o iawndal yn Llys y Goron Abertawe am droseddau yn ymwneud â thwyll a dwyn.
 
Ym mis Rhagfyr 2020, cafodd yr adran gŵyn am Total Landscaping Solutions Ltd, a oedd wedi ymrwymo i gontract yn lleol â phâr oedrannus i adnewyddu eu gardd fel y gallent ei defnyddio a'i mwynhau yn ystod eu hymddeoliad. Roedd y dyfynbris gwreiddiol am y gwaith yn fwy na £15,000. Roedd y ffigur yn cynnwys swm o fwy na £2,500 o dreth, y dywedodd Rees na fyddai'n ei godi pe bai'r achwynydd yn talu ag arian parod. Cytunwyd ar hyn, a'r pris terfynol oedd £13,000. Talodd y pâr flaendal o £6,500, a byddai'r gweddill yn ddyledus ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.

Ni ddechreuodd y cwmni ar y gwaith ar y dyddiad dechrau y cytunwyd arno, gan gynnig amrywiol esboniadau.  Tua phythefnos ar ôl y dyddiad dechrau gwreiddiol, dechreuodd y gwaith yn araf, gyda chyflogeion y cwmni'n treulio awr neu ddwy y dydd yn yr eiddo.

Ychydig ddyddiau ar ôl dechrau ar y gwaith, gofynnodd Rees – sy'n 38 oed ac yn byw yn Yeo Street, Resolfen – am daliad pellach o £3,500 i dalu am ddeunyddiau, gan ddweud mai'r rheswm oedd bod y cwmni'n newydd a bod pris deunyddiau wedi codi.

Unwaith eto, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, gofynnodd Rees am daliad arall o £2,500, ac fe'i cafodd. 
Ddechrau mis Tachwedd, dywedodd Rees wrth yr achwynydd y byddai'n cwblhau'r gwaith y diwrnod hwnnw, felly cafodd y taliad olaf o £3,000. Ni chafodd y gwaith ei gwblhau.

Oherwydd y tywydd garw a'i anableddau, nid oedd modd i'r achwynydd fwrw golwg dros y gwaith am beth amser. Pan wnaeth hynny, gwelodd fod yr ardd yn llithrig ac yn beryglus iawn, a gallai weld bod y stepiau'n llawer rhy serth a pheryglus. Dywedodd ei bod yn ymddangos bod y stepiau wedi cael eu hadeiladu'n wael a bod y pren yn edrych yn simsan ac yn hollt ac anwastad.

Aeth Mr Timothy DAVIES, sy'n Syrfëwr Adeiladau Siartredig, yn Dyst Arbenigol ac yn Brisiwr sydd wedi'i Achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) i'r eiddo. Yn ei adroddiad, dywedodd:
‘Yn fy marn i, mae'r safonau crefftwaith yn llawer is na'r safon ofynnol sy'n dderbyniol yn y diwydiant ac, ar y cyfan, mae'n ofnadwy. Nid oes fawr ddim tystiolaeth o sgìl na chymhwysedd i'w gweld yn y gwaith sydd wedi'i gwblhau hyd yma ar y safle.’

Dywedodd Mr Davies y byddai'r deunyddiau a ddefnyddiwyd ar y safle'n costio cyfanswm o tua £1371.40. Hefyd, dywedodd mai cost cwblhau'r gwaith i safon ofynnol dderbyniol, gan gynnwys costau llafur ac offer, fyddai tua £3000-£4000 (heb gynnwys TAW).  Felly, cyfanswm y gost am gwblhau'r gwaith i safon ofynnol dderbyniol fyddai £5371.40.

Aeth Mr Davies yn ei flaen i ddweud y bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o'r gwaith gael ei dynnu oddi yno a'i ail-wneud gan grefftwr profiadol. Amcangyfrifodd y byddai'n costio tua £6000-£7000 i ail-wneud y gwaith.

Roedd ail achwynydd wedi cyflogi Rees a Total Landscaping Solutions Ltd yn ystod mis Hydref 2020 i wneud gwaith yn ei eiddo.  Dechreuwyd ar y gwaith, yn unol â'r hyn a drefnwyd, yn ystod mis Mai 2021. Fodd bynnag, wrth nesáu at ddiwedd y gwaith, dywedodd Rees wrth yr achwynydd, a hynny'n gelwyddog, nad oedd wedi cael ei dalu am waith roedd wedi bod yn ei wneud yn Tai Tarian gan olygu y byddai'n dirwyn y cwmni i ben, ac felly na fyddai'n gallu cwblhau'r ffens er ei fod wedi cael ei dalu am y gwaith ymlaen llaw.

Ar ôl i Rees bledio'n euog i dri chyhuddiad o dwyll drwy ymhonni'n anwir ac un cyhuddiad o ddwyn £3,000 ar 2 Mawrth 2023, gohiriodd Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB y gwrandawiad dedfrydu er mwyn rhoi amser i Rees wneud ad-daliad rhannol gwirfoddol o £3000 i'w rannu rhwng ei ddioddefwyr.  

Pan gynhaliwyd y gwrandawiad dedfrydu ar 31 Mawrth 2023, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB fod Rees yn dwyllwr masnach nodweddiadol sy'n manteisio ar ddioddefwyr agored i niwed gan ychwanegu gwaith a chostau ffug.  Dywedodd hefyd fod yr effaith yn fwy na'r golled ariannol a bod y niwed yn y straen a'r pryder a achosir i ddioddefwyr. 

Gan gydnabod ei fod wedi pledio'n euog, rhoddodd y Barnwr ddedfryd o wyth mis o garchar i REES mewn perthynas â'r dioddefwr cyntaf, a chwe mis o garchar mewn perthynas â'r ail ddioddefwr, gyda'r ddwy ddedfryd yn cydredeg.  Byddai'r cyfnod o garchar yn cael ei ohirio am ddwy flynedd.

Aeth Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB yn ei flaen i ddweud y byddai gohirio'r cyfnod o garchar yn galluogi Rees i barhau i dalu'n ôl i'w ddioddefwyr, a gorchmynnodd iddo dalu £250 y mis am gyfnod o dair blynedd, a fyddai'n cael ei rannu rhwng y ddau ddioddefwr.  Rhoddodd y Barnwr hefyd ddedfryd o 20 diwrnod o Weithgarwch Gofynion Adsefydlu a 200 awr o waith di-dâl iddo.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol, y Cyngh. Alun Llewelyn: “Rydym yn croesawu'r ddedfryd a roddwyd ac yn falch bod y llys wedi cydnabod y golled ariannol a'r niwed meddyliol a achoswyd i'r dioddefwyr. Mae'r adran Safonau Masnach yn ddigyfaddawd o ran ymchwilio i fusnesau sy'n herio'r gyfraith ac yn targedu pobl agored i niwed.”

“Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo cynllun cymeradwyo masnachwyr a gynhelir gan Safonau Masnach Cenedlaethol o'r enw ‘Buy With Confidence’. Caiff masnachwyr cyfreithlon a chyfrifol eu hannog i gysylltu â'r adran er mwyn ymuno â'r cynllun. Dylai defnyddwyr edrych ar wefan ‘Buy With Confidence’ er mwyn dod o hyd i fasnachwyr cymeradwy”.

Os hoffech roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau o'r fath, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor i Bopeth ar 0808 2231144 i siarad â chynghorydd yn Gymraeg, neu 0808 223113 yn Saesneg.

 

 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out