Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Mae’n amser mynd i’r afael â thwyll rhamant


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cefnogi CrimeStoppers i atal Twyll Rhamant sy’n effeithio ar unigolion ledled y DU ac yn Wrecsam.

Mae mwy a mwy o bobl yn cwrdd â phobl ar-lein, ar rwydweithiau cymdeithasol, trwy chwarae gemau ar-lein, llwyfannau chwilio am gariad, unrhyw le ble gall pobl sgwrsio ar-lein - ac felly mae mwy a mwy o bobl yn datblygu perthnasau gyda phobl nad ydynt erioed wedi eu cyfarfod wyneb yn wyneb.

Mae chwilio am gariad ar-lein, er enghraifft, bellach yn un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin i gwrdd â phartner rhamantaidd. Tra bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn rhai onest, yn anffodus mae rhai yn ceisio cymryd mantais o unigolion sy’n edrych am gariad.

Yn anffodus, mae twyllwyr wedi gweld sut y gallant gymryd maintais o hyn a nawr yn defnyddio proffiliau ffug, yn ffugio straeon, dylanwadu a chymell - oll gyda’r bwriad o greu cyswllt â rhywun diniwed ar y rhyngrwyd, gyda’r nod yn y pen draw i ddarbwyllo’r unigolyn diniwed i anfon arian atynt.

Twyll rhamant yw hyn.

Ar gyfartaledd mae unigolyn yn colli £10,000 dros gyfnod y twyll. Yn 2021 roedd dros £99 miliwn wedi’i golli i dwyll rhamant. 

Gall twyll rhamant ddigwydd i unrhyw un. Pob rhyw, oed, cyfeiriadedd rhywiol. Mae pobl o bob cefndir diwylliannol ac ethnig yn ddioddefwyr, dynion hoyw yn cael eu targedu’n anghymesur gyda 12.4% o’r holl ddioddefwyr yn 2021.

Arwyddion o Dwyll Cariad: 
Cyn i chi wir ddod i’w hadnabod, maent yn datgan eu cariad yn gyflym.
Maent yn gwneud esgusodion pam ma allant sgwrsio dros fideo neu gwrdd wyneb yn wyneb.
Maent yn ceisio symud eich sgyrsiau yn gyflym oddi ar y llwyfan ble fu i chi gyfarfod.
Pan fyddant yn gofyn am gymorth ariannol, bydd ar gyfer argyfwng critigol o ran amser, a bydd y rheswm yn mynd at eich calon. 
Efallai y byddant yn mynd yn amddiffynnol os ydych yn gwrthod helpu.
Efallai y byddant yn dweud wrthych am gadw eich perthynas yn breifat ac i beidio â thrafod unrhyw beth gyda’ch ffrindiau a theulu.

Darllenwch fwy am hyn ar wefan CrimeStoppers 

Os ydych wedi dioddef Twyll Rhamant cysylltwch â ni ar y ffôn neu ar-lein - ffoniwch am ddim ar 0800 555 111 neu ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma ar ein gwefan 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out