Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Masnachwr lo Ferthyr wedi'i ddedfrydu yn dilyn erlyniad Safonau Masnach


  • Ymddangosodd Paul Pedler, sy'n masnachu fel L&F Fabrication and Fencing Ltd, gerbron Llys y Goron Merthyr ar 4 Tachwedd 2026 i'w ddedfrydu, ar ôl pledio'n euog o'r blaen i droseddau o dan ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr.

    Dilynodd yr erlyniad sawl cwyn gan ddefnyddwyr a oedd wedi ymrwymo i gytundebau â Pedler ar gyfer gosod ffensys, gatiau, rheiliau, balconïau a gwaith cysylltiedig. Ym mhob achos, talodd cwsmeriaid flaendaliadau sylweddol, sef hanner pris y contract y cytunwyd arno, ar ôl cael sicrwydd y byddai'r gwaith yn cael ei gwblhau.

    Cyflwynwyd tystiolaeth i’r llys gan bum cwsmer, er gwaethaf addewidion dro ar ôl tro dros gyfnodau estynedig, fod y gwaith naill ai wedi methu â dechrau neu eu bod o safon wael ac na chawsant eu cwblhau. Gwnaeth cwsmeriaid nifer o ymdrechion i gysylltu â Pedler drwy alwadau ffôn, negeseuon ac ymweliadau â'i safle busnes a hynny mewn ymdrech i sicrhau fod y gwaith yn cael eu cwblhau neu gael ad-daliadau. Ni wireddwyd yr un ohonynt.

    Wrth ddedfrydu, tynnodd y Barnwr sylw at yr effaith ar y dioddefwyr a dywedodd: "Roedd hon yn ffordd erchyll o ymddwyn. Roedd yn peri gofid a'r unig beth roedden nhw ei eisiau oedd gwaith rhesymol wedi’i gwblhau. Doeddech chi ddim yn cymryd cyfrifoldeb am eich gweithredoedd ac yn cuddio mewn diod a chyffuriau. Dim ond dedfrydau carchar sy'n gyfiawn."

    Gosododd y Llys y ddedfryd ganlynol:

    Chwe mis o garchar, wedi'i ohirio am 18 mis
    Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu (RAR) o 10 diwrnod
    200 awr o waith di-dâl
    Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am chwe blynedd yn gwahardd Pedler rhag:
    Ymgymryd â gwaith adeiladu, naill ai'n bersonol neu drwy drydydd partï, yn ystod masnach neu fusnes mewn unrhyw annedd feddiannol ac eithrio mewn swydd gyflogedig
    Gordal Dioddefwyr
    Gorchmynion Iawndal a Chasglu sy'n gofyn am daliadau o £200 y mis

Dywedodd Y Cynghorydd David Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinetr dros Cymunedau a Newid Hinsawdd: "Derbyniodd y diffynnydd daliadau dro ar ôl tro a gwnaeth addewidion na lwyddodd i'w cadw, gan adael cwsmeriaid yn rhwystredig, mewn trallod ac mewn anfantais ariannol. Mae'r ddedfryd hon, ynghyd â'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, yn anfon rhybudd clir y gall masnachwyr sy'n cymryd rhan yn y math hwn o ymddygiad ddisgwyl wynebu canlyniadau sylweddol."

Mae Cyngor Bwrdeistref Sir Merthyr Tudful yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddiogelu defnyddwyr rhag arferion masnachu annheg a sicrhau bod busnesau'n gweithredu'n deg ac yn gyfreithlon.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out