Lletywr cŵn heb drwydded yn cael ei ddirwyo
Ar Ddydd Llun, 23 Tachwedd 2026, plediodd Raymond Owen, o Packleaders, Llanddeusant, yn euog i beidio â bod â thrwydded lletya cŵn fel oedd yn ofynnol ar gyfer ei fusnes.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod swyddogion iechyd anifeiliaid a thrwyddedu cyngor Môn wedi ymweld â’i safle ym mis Awst 2025 ac wedi canfod bod 10 o gŵn yn cael eu lletya yno.
Cafwyd hyd i drwydded a oedd wedi dod i ben yn cael ei harddangos ar y wal. Cysylltwyd â pherchnogion y cŵn a cawsant eu symud o’r safle.
Mae’n ofynnol i letywyr sydd â thrwydded ddarparu amgylchedd addas a sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch ar waith er mwyn diogelu lles y cŵn yn ystod eu harhosiad. Dylai cwsmeriaid bob amser wirio bod gan letywr drwydded gyfredol.
Dywedodd rheolwr trwyddedu cyngor Môn, Sion L Hughes, “Mae gofynion trwyddedu yn eu lle i helpu i ddiogelu lles a diogelwch cŵn wrth iddynt dderbyn llety. Byddem yn annog unrhyw un sy’n chwilio am letywr cŵn i wirio bod ganddo drwydded gyfredol cyn gadael ei anifail anwes yn ei ofal.”
“Mae ein swyddogion yn gweithio gyda busnesau lleol i’w helpu i ddeall a bodloni’r safonau gofynnol, ond byddwn yn cymryd camau priodol pan na fydd y gofynion hynny’n cael eu bodloni.”