Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Ymgyrch yn erbyn gwerthwyr fêps anghyfreithlon yn Abertawe yn parhau


Mae'r siopau diweddaraf i gau yn cynnwys dau safle ar Heol San Helen - Vape City ac Asia Vapes. Y drydedd siop i gau yw Vape Zone ar stryd Dillwyn Street.

Mae'r tri gorchymyn cau, a orfodwyd gan Ynadon Abertawe, yn rhan o ymgyrch barhaus Cyngor Abertawe yn erbyn gwerthu tybaco ffug a fêps anghyfreithlon ledled Abertawe.

Gwnaeth Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu, groesawu'r camau gweithredu diweddaraf gan Safonau Masnach a'r Heddlu.

Meddai'r Cyng. Williams, "Mae'r hysbysiadau cau diweddaraf yn enghraifft wych arall o'r gwaith y mae ein tîm Safonau Masnach yn ei wneud i darfu ar fusnesau sy'n gweithredu yn anghyfreithlon a'u cau.

"Mae'n gwbl annerbyniol bod llawer o'r siopau fêps hyn yn gweithredu yn y ffordd maen nhw, gan werthu nwyddau ffug, yn enwedig i blant." 

Erthygl flaenorol
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out