Targedu siopau fêps anghyfreithlon yn Abertawe
Ymwelodd swyddogion Safonau Masnach Cyngor Abertawe â siop Kubas Superstore a siop Swansea Market Vape Store, sydd ill dwy wedi'u lleoli ar Heol San Helen yng nghanol y ddinas, cyn i'r siopau gael eu cau.
Datgelodd pryniannau prawf a gynhaliwyd cyn yr ymweliadau fod tybaco ffug a chynhyrchion fêpio anghyfreithlon yn parhau i gael eu gwerthu.
Mae'r gorchmynion cau diweddaraf a gyhoeddwyd gan ynadon yn golygu y bydd y siopau aros ar gau am dri mis ac na chaniateir iddynt fasnachu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae'r tîm Safonau Masnach wedi cau'r ddwy siop o'r blaen, ond o dan y ddeddfwriaeth bresennol, gorchymyn cau am dri mis yw'r gosb fwyaf y gall ynadon ei gosod.
Yn ddiweddar, cafodd dau ddyn sy'n gysylltiedig â siop Swansea Market Vape Store eu dedfrydu hefyd i gyfanswm o bum mlynedd yn y carchar.
Meddai Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu (Rheoli): "Mae'r achosion diweddaraf hyn o gau siopau yn rhan o'n hymgyrch barhaus yn erbyn gwerthu fêps anghyfreithlon yn y ddinas.
"Rydym wedi cau cyfanswm o 14 o siopau fêps ers mis Mehefin eleni, yn dilyn ymchwiliadau gan ein swyddogion Safonau Masnach. Rydym wedi cau rhai ohonynt fwy nag unwaith.
"Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn golygu mai dim ond am gyfnod o dri mis ar y tro y gallwn gau'r siopau hyn.
"Rwyf am roi sicrwydd i'r cyhoedd y byddwn yn parhau i ailymweld â'r safleoedd hyn pan fyddant yn ailagor ac yn cymryd camau i'w cau eto os cânt eu dal yn gwerthu fêps anghyfreithlon.
"Ein nod yw tarfu ar y fasnach anghyfreithlon hon sy'n effeithio ar ein strydoedd mawr."