Carcharu dau yn dilyn erlyniad Cyngor Abertawe oherwydd ymgyrch tybaco anghyfreithlon
Dedfrydwyd Rekawt Abdul, 29 oed, i dair blynedd yn y carchar a dedfrydwyd Mohamed Saifadin Mohamed, 26 oed, i ddwy flynedd yn y carchar wedi i'r achos ddod i ben yn y llys.
Mae'r canlyniad yn rhan o waith parhaus Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â busnesau sy'n ymwneud â gwerthu tybaco ffug, sigaréts a fêps anghyfreithlon.
Dilynodd yr erlyniad ymchwiliadau a oedd yn gysylltiedig â Marchnad Abertawe, 17 St Helens Road, lle'r oedd swyddogion wedi nodi materion tymor hir a oedd yn ymwneud â gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon.
Yn ystod ymweliadau a gwarantau a gynhaliwyd gan swyddogion Safonau Masnach Cyngor Abertawe, gyda chefnogaeth yr heddlu, atafaelwyd symiau mawr o gynhyrchion tybaco ffug, anghyfreithlon a di-doll.
Ym mis Tachwedd 2025, daeth swyddogion o hyd i 360 o becynnau o sigaréts a 632 pecyn o dybaco ym Marchnad Abertawe. Amcangyfrifwyd mai gwerth manwerthu'r cynnyrch oedd £31,040.
Ym mis Mehefin 2026, gweithredwyd gwarant mewn fflat ar y llawr cyntaf yn 19 St Helens Road yn dilyn gwybodaeth bod tybaco'n cael ei storio yno ac yn cael ei gyflenwi i staff ym Marchnad Abertawe. Fe wnaeth swyddogion adfer mwy na 9,000 o becynnau o sigaréts, 153 pecyn o dybaco a 36 fêps THC, gyda gwerth manwerthu amcangyfrifedig o £153,008.
Canfuwyd bod yr holl sigaréts a thybaco a archwiliwyd yn ffug, yn anghyfreithlon neu'n ddi-doll, sy'n golygu na ellid eu gwerthu'n gyfreithlon yn y DU.
Meddai'r Cyng. Andrew Williams, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddatblygu, "Mae'r erlyniad llwyddiannus hwn yn anfon neges gref na fydd Cyngor Abertawe'n goddef busnesau neu unigolion sy'n ymwneud â gwerthu a chyflenwi tybaco ffug neu fêps anghyfreithlon.
"Gall y cynhyrchion hyn danseilio busnesau cyfreithlon, annog troseddu ehangach a rhoi pobl mewn perygl. Bydd ein tîm Safonau Masnach yn parhau i weithio gyda phartneriaid i adnabod troseddwyr, dod â gweithrediadau anghyfreithlon i ben a chymryd camau cadarn drwy'r llysoedd lle bynnag y bo angen."