Llys yr Ynadon yn gorchymyn siopau fêps i gau yn dilyn gwerthiannau ffug
Cynhaliodd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe ymgyrch yn ddiweddar yng nghwmni'r heddlu lleol a swyddogion mewnfudo i atal gwerthu tybaco a fêps ffug mewn siopau ledled y ddinas.
Arweiniodd y cyrch diweddaraf ar dair siop (VH Vape Hub, Kalar Market a Midtown Vape Shop)
ar Mansel Street at y tîm Safonau Masnach yn atafaelu swm sylweddol o dybaco a fêps ffug.
Atafaelodd yr heddlu lleol hefyd symiau o gyffuriau anghyfreithlon o'r siop yn ystod y cyrch.
Yn dilyn y cyrch, rhoddwyd hysbysiadau cau dros dro i'r tair siop gan y tîm Safonau Masnach. Ers hynny, mae Llys yr Ynadon wedi ymestyn y cyfnod cau ac wedi gorchymyn i'r tair siop gau am dri mis.
Croesawodd Andrew Williams, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu, y camau diweddaraf gan Safonau Masnach a'r heddlu.
Meddai'r Cynghorydd Williams, "Mae cau'r siopau hyn yn enghraifft wych arall o'r gwaith y mae ein tîm Safonau Masnach yn ei wneud i atal a chau busnesau sy'n gweithredu'n anghyfreithlon.
"Mae'n gwbl annerbyniol bod llawer o'r siopau fêps hyn yn gweithredu yn y ffordd maen nhw, gan werthu nwyddau ffug, yn enwedig i blant."
Mae cau'r siopau hyn yn ddiweddar yn dilyn ymdrech sylweddol gan dîm Safonau Masnach y cyngor sydd wedi cynnal ymgyrch hirfaith yn erbyn gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon a ffug ers nifer o flynyddoedd yn y ddinas.
Ym mis Mehefin 2026, caewyd dwy siop fêps ym Mhontarddulais ac yng nghanol y ddinas ar ôl iddynt gael eu dal yn gwerthu fêps anghyfreithlon. Ym mis Hydref 2025, gorfodwyd cyfanswm o naw siop fêps, gan gynnwys nifer mawr ar hyd St Helen's Road yng nghanol y ddinas, i gau gan Lys yr Ynadon hefyd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Williams, "Mae'r rhan fwyaf o drefi a dinasoedd ledled y DU wedi gweld cynnydd cyson yn nifer y siopau fêps sy'n agor. Ein ffocws yw sicrhau bod y siopau hyn yn gweithredu'n gyfreithlon ac yn bwysicach fyth, sicrhau nad ydynt yn gwerthu nwyddau i blant dan 18 oed.
"Mae ein gwaith parhaus yn cynnwys casglu gwybodaeth drwy brofion prynu i ganfod pa siopau sy'n gwerthu cynhyrchion ffug.
"Drwy weithio ochr yn ochr â'r heddlu lleol, mae ein tîm Safonau Masnach wedi gallu tarfu ar y busnesau hyn a darparu digon o wybodaeth i alluogi llysoedd i'w cau.
"Bydd y gwaith hwn yn parhau mewn ymgais i amddiffyn pobl Abertawe."