Rhybudd am deganau plant
Dros y misoedd diwethaf, mae safonau masnach wedi atafaelu symiau sylweddol o eitemau ffug ac nad ydynt yn cydymffurfio o siopau gan gynnwys 1,611 o ddoliau "Labubu" a 1,299 o deganau meddal.
Dyma rai cynghorion craff ar beth i gadw llygad amdano pan fyddwch chi'n prynu teganau:
Cyfarwyddiadau diogelwch clir sy'n esbonio beth i'w wneud os yw'r tegan yn gollwng, yn torri neu mae tyllau ynddo.
Marc CE neu UKCA sy'n nodi bod y cynhyrchion wedi cael yr asesiad diogelwch priodol.
Enw a chyfeiriad person cyfrifol yn y DU, fel y gwneuthurwr neu'r mewnforiwr. Mae hyn yn bwysig, gan ei fod yn galluogi’r rheini sy'n gyfrifol os bydd pryder diogelwch yn codi i gael eu hadnabod.
Gall arogl cemegol cryf neu anarferol hefyd nodi nad yw'r tegan yn bodloni gofynion diogelwch. Mae safonau masnach wedi ymchwilio i bryderon am arogleuon amlwg o rai teganau twmplenni, ac mae profion wedi datgelu cemegau peryglus mewn rhai cynhyrchion.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Spencer, Aelod Cabinet dros Gymunedau a Chwaraeon Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â 'phŵer plagio', a gall prynu fersiynau rhatach o deganau sydd wedi dod yn eitemau 'rhaid eu cael' diweddaraf i blant fod yn demtasiwn, yn hytrach na phrynu'r eitemau dilys.
"Fodd bynnag, mae straeon diweddar yn y cyfryngau wedi tynnu sylw at sut mae plant wedi cael eu hanafu gan deganau meddal sydd wedi 'ffrwydro', felly mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn cymryd gofal wrth brynu'r teganau hyn a theganau tebyg.
"Byddwn hefyd yn annog manwerthwyr i sicrhau eu bod yn stocio eitemau y gallant gadarnhau eu bod yn bodloni'r holl safonau diogelwch yn unig."
Dylai defnyddwyr y mae ganddynt bryderon am ddiogelwch tegan roi'r gorau i'w ddefnyddio ar unwaith, a rhoi gwybod amdano i'w gwasanaeth safonau masnach lleol drwy linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth 0808 223 1144.