Rhybuddion am deganau peryglus
Mae'r rhybudd yn dilyn y llu o ddoliau Labubu ffug y llynedd ac mae nawr yn canolbwyntio ar nifer gynyddol o deganau tebyg i beli straen, gan gynnwys fersiynau ffug o frandiau adnabyddus fel NeeDoh. Mae llawer o'r cynhyrchion hyn yn groes i ddeddfau diogelwch cynnyrch a nodau masnach.
Mae swyddogion Safonau Masnach wedi tynnu nifer o deganau squeezy dumpling – sy'n aml yn cael eu gwerthu mewn basgedi stemar plastig – o siopau ledled Sir Gaerfyrddin. Mae profion cynhyrchion tebyg gan awdurdodau lleol ledled Cymru a'r DU wedi datgelu pryderon diogelwch difrifol.
Nododd yr ymchwiliadau nifer o beryglon, gan gynnwys:
Cemegion peryglus : mae rhai cynhyrchion yn cynnwys lefelau gormodol o gemegion gwenwynig, gan gynnwys bensen, sy'n gallu llidio'r croen, y llygaid a'r ysgyfaint.
Gwybodaeth ddiogelwch ar goll: roedd llawer o deganau heb fod â'r rhybuddion diogelwch sy'n ofynnol dan y gyfraith, cyfyngiadau oedran, manylion y mewnforiwr i'r DU a'r marciau cydymffurfiaeth UKCA neu CE gorfodol.
Arogleuon cemegol cryf : mae cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio yn aml yn rhoi arogl synthetig cryf neu arogl tebyg i betrol, a allai nodi presenoldeb sylweddau niweidiol.
Risgiau llosgi a ffrwydro: mae tuedd bryderus ar y cyfryngau cymdeithasol wedi annog plant i gynhesu'r teganau hyn mewn microdonnau. Mae sawl achos wedi arwain at blant yn dioddef llosgiadau difrifol ar ôl i'r teganau byrstio, gan ryddhau gel berwedig, gludiog sy'n glynu wrth y croen.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am Safonau Masnach:
"Dylai rhieni a gofalwyr gymryd gofal ychwanegol wrth brynu teganau, yn enwedig y rhai sy'n boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd neu sy'n cael eu gwerthu am brisiau anarferol o isel. Gall teganau ffug edrych yn argyhoeddiadol ond gallan nhw beri risgiau difrifol i iechyd a diogelwch plant. Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd wedi prynu un o'r cynhyrchion hyn i wneud ychydig o wiriadau syml a rhoi'r gorau i'w defnyddio ar unwaith os oes unrhyw bryderon."
Mae Safonau Masnach yn cynghori defnyddwyr i wneud y canlynol:
Gwiriwch fod teganau yn arddangos y marciau UKCA neu CE gofynnol, ynghyd ag enw a chyfeiriad y gwneuthurwr neu'r mewnforiwr i'r DU.
Stopiwch ddefnyddio'r tegan ar unwaith os yw'n gollwng, os oes ganddo arogl cemegol cryf, os yw wedi'i wneud yn wael neu os nad oes gwybodaeth am ddiogelwch arno.
Peidiwch byth â rhoi'r teganau hyn mewn microdon na chaniatáu i blant eu rhoi yn eu ceg.
Mae rhagor o wybodaeth am y peryglon a'r cynhyrchion sy'n cael eu galw'n ôl ar hyn o bryd ar gael drwy GOV.UK Product Recall: Squeezy Dumplings Alert.
Gall unrhyw un sydd â phryderon am y cynhyrchion hyn gysylltu â'r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.
Dylai busnesau sydd angen cyngor gysylltu â Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01267 234567.