Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Safonau Masnach yn sicrhau gorchmynion cau yn erbyn dau safle manwerthu yn Wrecsam


Mae’r Gorchmynion Cau, a roddwyd or Orffennaf 13eg gan y Llys Ynadon, yn ymwneud â:

Simba’s Shop, Stryt y Brenin, Wrecsam
Brook Street Superstore, Glan yr Afon, Wrecsam

Mae’r weithred yn dilyn cyfres o ymchwiliadau a gweithgareddau gorfodi a gynhaliwyd gan Safonau Masnach Wrecsam, gan weithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru ac asiantaethau partner eraill.

Mae Gorchmynion Cau yn fesur gorfodi sylweddol a ddefnyddir i atal gweithgaredd troseddol neu wrthgymdeithasol parhaus sy’n gysylltiedig â safleoedd. Mae’r gorchmynion yn gwahardd mynediad i’r busnesau a’u bwriad yw amddiffyn cymunedau lleol tra bod ymchwiliadau pellach yn parhau.

Mae gwerthu cynhyrchion tybaco a fêpio anghyfreithlon yn aml yn gysylltiedig â throseddu cyfundrefnol ehangach. Mae’r cynhyrchion hyn yn aml yn cael eu gwerthu y tu allan i’r fframwaith rheoleiddio cyfreithiol, gan osgoi trethi a rheolaethau diogelwch, wrth danseilio busnesau dilys sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.

Mae Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddefnyddio’r ystod lawn o bwerau sydd ar gael i amharu ar fasnachu anghyfreithlon, cael gwared ar gynhyrchion anghyfreithlon a diogelu defnyddwyr.

Datganiad gan y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol ac Diogelu’r Cyhoedd:

“Mae’r Gorchmynion Cau hyn yn dangos ein penderfyniad i fynd i’r afael â busnesau sy’n masnachu’n anghyfreithlon a’r niwed sylweddol y mae’n ei achosi i’n cymunedau.

“Mae’r fasnach dybaco anghyfreithlon yn aml yn gysylltiedig â rhwydweithiau troseddol ehangach, gan amddifadu’r pwrs cyhoeddus o refeniw mawr ei angen a gwneud cynhyrchion tybaco yn fwy hygyrch i bobl ifanc.

“Hoffwn ddiolch i swyddogion Safonau Masnach a Heddlu Gogledd Cymru am eu hymrwymiad parhaus a’u gwaith mewn partneriaeth i geisio dod â’r materion hyn gerbron y llys.

“Byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi cadarn lle bynnag y nodir tystiolaeth o fasnachu anghyfreithlon.”

Roedd y ceisiadau llwyddiannus yn ganlyniad i weithio’n agos mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru. Trwy rannu cudd-wybodaeth a chydlynu gweithgaredd gorfodi, mae asiantaethau yn gallu targedu’n effeithiol y rhai sy’n elwa o werthu nwyddau anghyfreithlon a’r gweithgaredd troseddol cysylltiedig.

Mae’r Cyngor yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol cyfreithlon a sicrhau amgylchedd masnachu teg a diogel i drigolion ac ymwelwyr.

Rhoi gwybod am werthiannau anghyfreithlon

Rydym yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu cynhyrchion tybaco neu fêpio anghyfreithlon i roi gwybod i Safonau Masnach Wrecsam drwy e-bost.

Fel arall, gellir gwneud adroddiadau yn ddienw drwy wefan ymgyrch Dim Esgus. Byth.

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out