Ymchwiliad Cyngor Abertawe i dwyll mewn perthynas â chamlabelu bwyd yn arwain at ddirwy o £500,000
Ddydd Gwener 5 Mehefin, dedfrydwyd y cwmni o Chelmsford, Essex, ar ôl pledio'n euog i un drosedd o dwyll drwy gynrychiolaeth ffug.
Lansiodd tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe yr ymchwiliad yn 2020/21 ar ôl i samplau a gymerwyd yn ystod ymarfer rhanbarthol godi pryderon nad oedd cynhyrchion wedi'u labelu fel cebabau cig oen yn cyfateb i'r cynnwys datganedig.
Canfu ymholiadau pellach a dadansoddiad ffurfiol anghysondebau sylweddol rhwng labeli a chyfansoddiad gwirioneddol y cynhyrchion.
Canfu'r ymchwiliad fod y cwmni wedi bod yn cynhyrchu ac yn cyflenwi cynhyrchion cebab i siopau bwyd ledled y DU, gan gynnwys Abertawe, gyda labeli a oedd yn disgrifio'r cynnwys cig yn anghywir.
Canfuwyd bod cynhyrchion a oedd yn cael eu marchnata a'u gwerthu fel cig oen yn cynnwys fawr ddim cig oen, neu ddim cig oen o gwbl mewn llawer o achosion, gyda chynhwysion gradd is eraill, gan gynnwys croen, braster a chigoedd eraill, yn eu lle.
Roedd y dystiolaeth a gasglwyd gan Gyngor Abertawe'n cynnwys samplau o'r cynnyrch, cofnodion cynhyrchu, ryseitiau, anfonebau a deunydd a adfeddiannwyd yn ystod ymweliad amlasiantaeth â safle'r cwmni. Dangosodd canlyniadau dadansoddol fod cynhyrchion y cwmni wedi'u cam-ddisgrifio a'u labelu'n anghywir mewn perthynas â'u cynnwys cig a'u cyfansoddiad.
Clywodd y llys fod y gweithgarwch twyllodrus yn camarwain cyfanwerthwyr, manwerthwyr a defnyddwyr, a oedd yn credu eu bod yn prynu cynhyrchion o ansawdd uwch na'r rhai a gyflenwyd mewn gwirionedd.
Dywedodd Cyngor Abertawe fod yr achos yn dangos penderfyniad yr awdurdod i ddiogelu defnyddwyr a busnesau cyfreithlon rhag twyll bwyd difrifol.
Meddai Arweinydd Tîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe, Rhys Harries, "Daethom yn ymwybodol o weithredoedd Kismet Kebabs wrth i ni gynnal dadansoddiad ar draws y ddinas o'r bwyd sy'n cael ei gynnig i ddefnyddwyr yn Abertawe.
"Amlygodd ein hymchwiliadau'r anghysondebau difrifol gyda labelu'r cynhyrchion o'u cymharu â chanlyniadau ein dadansoddiad ac ysgogodd hyn ein camau gweithredu dilynol yn erbyn y gwneuthurwr bwyd.
"Mae defnyddwyr yn haeddu gwybod mai'r hyn sy'n mynd i mewn i'r bwyd maen nhw'n ei brynu yw'r hyn sy'n cael ei ddatgan ar y label.
"Mae'r ddirwy o £500,000 a roddwyd gan Lys y Goron Abertawe, ynghyd â chostau o £259,298.67, yn adlewyrchu difrifoldeb y drosedd ac yn dilyn ple euog y cwmni i'r troseddau.