Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Preswylydd yn Abertawe'n derbyn gwaharddiad oes am greulondeb i anifeiliaid


Cafodd Mr Erasmus waharddiad oes rhag cadw anifeiliaid yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau 4 Mehefin ac ar ôl pledio'n euog i nifer o droseddau o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Dros gyfnod estynedig, gwnaeth swyddogion y cyngor ymchwilio i bryderon a godwyd gan aelodau o'r cyhoedd a chynnal ymweliadau niferus â chae Mr Erasmus yn Bolgoed Road ym Mhontarddulais. Roedd yr ymweliadau yn dilyn cwynion am yr amodau yr oedd anifeiliaid yn cael eu cadw ynddynt.

Yn ystod yr ymweliadau, gwnaeth swyddogion lles anifeiliaid y cyngor symud moch a geifr y gwelwyd eu bod yn cael eu cadw dan amodau anaddas oddi ar y safle. Yn dilyn yr ymweliadau, gwnaeth Mr Erasmus brynu mwy o anifeiliaid ac roedd y rhain hefyd yn destun amodau tebyg.

Meddai Rhys Harries, Arweinydd Tîm Lles Anifeiliaid Cyngor Abertawe, "Mae'r llys wedi gwneud y penderfyniad cywir drwy wahardd Mr Erasmus rhag gallu cadw anifeiliaid byth eto.

"Yn ystod ymweliadau mynych gan swyddogion, fe welon nhw anifeiliaid yn cael eu cadw dan amodau ofnadwy. Bob tro fe wnaethom wneud yr hyn yr oedd angen i ni ei wneud i symud yr anifeiliaid hyn a sicrhau eu bod yn ddiogel.

"Mae'r cyngor yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif, a byddwn bob amser yn ymateb i gwynion am ddiogelwch anifeiliaid ac yn cymryd y camau angenrheidiol pryd bynnag y bydd angen."

Roedd yr ymchwiliad yn rhan o waith parhaus gan Gyngor Abertawe i ymateb i adroddiadau gan breswylwyr pryderus a diogelu lles anifeiliaid.

Yn dilyn cyhoeddi'r gwaharddiad oes, dywedodd Cyngor Abertawe fod y canlyniad yn adlewyrchu difrifoldeb yr achos ac ymrwymiad parhaus y cyngor i gymryd camau lle mae pryderon sylweddol am les anifeiliaid.

Ychwanegodd Mr Harries, "Dylai'r achos hwn anfon neges glir iawn i eraill y byddwn yn gwneud beth bynnag sy'n angenrheidiol i ddiogelu lles anifeiliaid a'u cadw yn ddiogel ac yn iach."

 

 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out