Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Sbotolau Safonau Masnach Cymru


Pwysigrwydd Safonau Masnach wrth ddiogelu diogelwch defnyddwyr

Mae ymgyrch Safonau Masnach Cymru eleni yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith eang sy’n cael ei wneud gan swyddogion Safonau Masnach ledled Cymru.

Rydym ni i gyd yn ddefnyddwyr - boed hynny’n prynu teganau i blant yn ein bywydau, bwyd ar gyfer pryd teuluol, eitemau trydanol ar gyfer ein cartrefi, neu trefnu gwelliannau neu atgyweiriadau lle’r ydym yn byw. Bob tro y byddwn yn prynu nwyddau neu wasanaethau, mae yna risg bosibl. Mae swyddogion Safonau Masnach yn gweithio’n galed i ddiogelu pawb rhag cynhyrchion anniogel, arferion annheg a masnachwyr twyllodrus, gan helpu i gadw pob defnyddiwr yn ddiogel ac yn hyderus.

Mae ymgyrch Safonau Masnach Cymru eleni yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r gwaith eang sy’n cael ei wneud gan swyddogion Safonau Masnach ledled Cymru. Dros gyfnod o dri diwrnod, byddwn yn taflu goleuni ar un o’n meysydd allweddol – diogelwch defnyddwyr. Bydd modd i chi hefyd wylio cyfres o bodlediadau a fideos byr sy’n eich cyflwyno i’ch swyddogion lleol a’r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i gadw defnyddwyr yn ddiogel.

Mae Safonau Masnach Cymru yn dod â’r holl wasanaethau Safonau Masnach ledled Cymru ynghyd mewn partneriaeth gydweithredol. Drwy weithio ar y cyd, rydym yn sicrhau cysondeb ar draws ffiniau awdurdodau lleol ac yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y materion sy’n bwysicaf i’r cyhoedd ac i fusnesau. Trwy rannu adnoddau ar brosiectau allweddol, gallwn wneud y defnydd gorau o gyllidebau sy’n lleihau, targedu gweithgarwch troseddol yn fwy effeithiol, a darparu cefnogaeth gryfach i fusnesau dilys.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bydd swyddogion ein hawdurdod wedi bod yn cymryd rhan mewn rhai o’r prosiectau ar y cyd hyn, ac rydym yn croesawu’r cyfle i ddweud mwy wrthych am sut rydym yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar wybodaeth ac yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill i wneud yr effaith fwyaf ac i gyflawni ein dangosyddion perfformiad allweddol.

Mae’n gyfle gwych i ni rannu mwy â chi am yr hyn a wnawn a pham ein bod yn ei wneud - ac rydym yn eich gwahodd i ymweld â’n gwefan i ddysgu mwy:
https://safonaumasnach.llyw.cymru/cym/tswweek/ a dilynwch @WalesTS ar ‘X’ i ddysgu mwy am yr hyn y mae awdurdodau eraill yn ei wneud hefyd. 

Efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd â waith amrywiol Safonau Masnach drwy ein herlyniadau lleol a’n datganiadau i’r wasg, ond hoffem gael y cyfle i ddweud wrthych am rai o’r meysydd eraill o’n gwaith nad ydych efallai’n sylweddoli sy’n cael effaith ar y Cyngor, er enghraifft, effeithlonrwydd ynni, diogelu, a diogelu busnesau lleol.

 
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out