Polisi Preifatrwydd
Mae eich hawl i breifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym yn cydnabod pan fyddwch yn dewis rhoi gwybodaeth i ni amdanoch eich hun, eich bod yn ymddiried ynom i ymddwyn mewn modd cyfrifol.
Credwn mai dim ond i'n helpu ni i ddarparu gwell gwasanaeth i chi y dylid defnyddio'r wybodaeth hon. Dyna pam rydym wedi rhoi polisi ar waith i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol.
Ni fyddwn yn darparu unrhyw ran o’ch gwybodaeth bersonol a gafwyd drwy’r we i gwmnïau neu unigolion eraill oni bai bod y gyfraith yn mynnu hynny.
Pryd bynnag y byddwch yn darparu gwybodaeth sensitif byddwn yn sicrhau pob cam rhesymol i'w diogelu. Byddwn hefyd yn cymryd mesurau diogelwch i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol yn y storfa.
Gall ein gwefannau ddarparu dolenni i wefannau trydydd parti. Gan nad ydym yn rheoli'r gwefannau hynny, rydym yn eich annog i adolygu polisïau preifatrwydd y gwefannau trydydd parti hyn.
Defnydd o gwcis
Neges fach yw cwci a roddir i'ch porwr gwe gan ein gweinydd gwe. Mae'r porwr yn storio'r neges mewn ffeil testun, ac mae'r neges yn cael ei hanfon yn ôl i'r gweinydd bob tro mae'r porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd.
Rydym yn defnyddio cwcis i'n darparu â gwybodaeth ddienw am sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan ac i'n helpu i wybod beth sy'n ddiddorol ac yn ddefnyddiol iddynt ar ein gwefan. Nid ydym yn storio gwybodaeth bersonol fel cyfeiriadau e-bost neu fanylion eraill mewn cwci.
Os hoffech ragor o wybodaeth am Gwcis, gweler ein Polisi Cwcis
Diwygiadau
Mae'n bosibl y byddwn yn adolygu'r Telerau hyn unrhyw bryd drwy ddiweddaru'r dudalen we hon. Fe'ch cynghorir i ymweld â'r dudalen hon o bryd i'w gilydd i adolygu'r Telerau diweddaraf oherwydd eu bod yn eich rhwymo. Gall rhai darpariaethau o'r Telerau hyn gael eu disodli gan hysbysiadau cyfreithiol penodol neu delerau sydd wedi'u lleoli ar dudalennau penodol ar ein gwefan.