Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Dedfrydu preswylydd o Geredigion am gynhyrchu a gwerthu DVDs ffug


Mae David Thomas, o Sarnau, Ceredigion, wedi’i dedfrydu i 20 mis o garchar wedi'i ohirio am 18 mis, ar ôl pledio'n euog i gyhuddiadau dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 trwy gynhyrchu a gwerthu DVDs ffug.

Ymddangosodd David Robert Thomas, 47, gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Llun 11 Tachwedd 2024, yn dilyn achos llwyddiannus a gyflwynwyd gan Wasanaeth Safonau Masnach Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Clywodd y Llys sut roedd David Thomas yn ystod cyfnod y troseddau wedi bod yn cynhyrchu a gwerthu DVDs ffug dan yr enwau brand oedd yn perthyn i Netflix, Amazon Technologies, Disney Enterprises, Sony, ac Universal City Studios LLC heb ganiatâd y cwmnïau dan sylw am nifer o flynyddoedd. Roedd wedi sefydlu saith gwefan unigol, wedi defnyddio nifer o gyfrifon banc a PayPal gan gynnwys rhai aelodau o’i deulu, ac roedd wedi creu busnes cartref ar-lein soffistigedig iddo'i hun gan gynhyrchu a gwerthu DVDs ffug.

Wrth benderfynu ar ddedfryd, ystyriodd y Barnwr Richards werth marchnad gwirioneddol gyfatebol y nwyddau yr oedd Mr Thomas wedi'u gwerthu, a amcangyfrifwyd i fod yn £150,000, yn ogystal â natur soffistigedig ei fusnes, ei gymeriad da yn flaenorol a'r ffaith ei fod wedi pleidio’n euog.

Cafodd Mr Thomas ei ddedfrydu i 20 mis yn y carchar wedi'i ohirio am 18 mis, gyda Gofyniad Cyrffyw 4 mis (tag electronig), a 15 diwrnod Gofyniad Gweithgaredd Adsefydlu.

Bydd achosion atafaelu a fforffedu yn erbyn Mr Thomas o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002 nawr yn dechrau. Diben achos o'r fath yw adfer y budd ariannol y mae Mr Thomas wedi'i gael o'i weithgarwch troseddol.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ddiogelu'r Cyhoedd: “Mae ffugio yn aml yn cael ei ystyried yn drosedd heb ddioddefwyr, ond pan fydd rhywun yn gwerthu nwyddau ffug, maent yn niweidio'r economi leol trwy danseilio busnesau a masnachwyr manwerthu cyfreithlon, sy'n talu trethi ac yn darparu swyddi gwirioneddol i bobl. Mae'r canlyniad hwn yn danfon neges glir na fydd gwerthu nwyddau ffug yn cael ei oddef yn ein sir ac na fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw fasnachwr a geir yn gwneud hynny.”

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out