Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Perchennog siop yn cael ei ddedfrydu am werthu nwyddau ffug


Cafodd Azad Ekram Ahmad, 31 oed o Broadway, Caerdydd, ei ddedfrydu yn Llys y Goron, Casnewydd, ar 17 Hydref.  Plediodd Ahmad yn euog i bedair trosedd a chafodd ddedfryd o 9 mis o garchar wedi’i gohirio am 12 mis, yn ogystal â chael ei orchymyn i gwblhau 200 awr o waith di-dâl, ymgymryd â gweithgaredd adsefydlu 5 diwrnod, a thalu gordal dioddefwr o £187 a chostau o £750 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn ystod cyfnod y troseddau, Ahmad oedd perchennog Ystrad Mini Market, Ystrad Mynach.  Ym mis Ionawr 2023, prynodd tîm Safonau Masnach Cyngor Caerffili sigaréts o'r siop fel prawf, ar ôl cael gwybodaeth bod y safle'n cael ei ddefnyddio i werthu sigaréts ffug.  Roedd y sigaréts a gafodd eu prynu y tro hwn yn ffug.

Ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fe wnaeth y tîm Safonau Masnach gynnal cyrch ar y safle, yng nghwmni ci synhwyro tybaco, lle daethon nhw o hyd i 8,500 o sigaréts ffug ac ychydig dros 2kg o dybaco rholio â llaw ffug wedi'u cuddio y tu ôl i'r cownter.

Yn ystod y chwiliad, fe wnaeth swyddogion hefyd atafaelu 54 o fêps untro anghyfreithlon, nad oedden nhw’n cydymffurfio â'r rheoliadau diogelwch gan eu bod nhw’n cynnwys mwy na'r 2ml o nicotin a ganiateir a'u bod nhw wedi'u labelu'n anghywir.

Fe wnaeth swyddogion hefyd atafaelu 35 o boteli o ddiodydd meddal Fanta â labeli tramor, na chaniateir eu gwerthu yn y Deyrnas Unedig gan nad oedden nhw wedi’u labelu yn Saesneg, gan wrthod y cyfle i gwsmeriaid gael gwybodaeth am eu cynnwys, a allai fod yn hanfodol i’r rhai ag alergeddau bwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am ddiogelu’r cyhoedd yng Nghyngor Caerffili, “Mae cynhyrchion ysmygu a diodydd anghyfreithlon yn peri risgiau difrifol i iechyd defnyddwyr.  Mae'r achos hwn yn dangos effeithiolrwydd ein tîm Safonau Masnach wrth fynd i'r afael â gwerthu eitemau o'r fath.  Rydyn ni’n gobeithio bod y ddedfryd yn anfon neges gref i fasnachwyr twyllodrus eraill ac yn eu hatal.”
 

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out