Cyngor Gwynedd yn erlyn busnes yn llwyddiannus am werthu a chyflenwi tybaco ac e-sigaret anghyfreithlon
Mae busnes o Wynedd wedi ei orchymyn i dalu bron i £13,000 mewn dirwyon a chostau am werthu a chyflenwi tybaco ac e-sigarét anghyfreithlon mewn achos llwyddiannus gan Gyngor Gwynedd.
Cyflwynwyd yr achos gan y Cyngor gerbron Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mercher, 11 Medi 2024. Clywodd y Llys fod swyddogion cudd oedd yn gweithio gydag Uned Safonau Masnach Cyngor Gwynedd wedi cynnal prawf-brynu yn Siop Gyfleustra Supercigs ar Stryd y Llyn, Caernarfon ar 26 Medi 2023, a arweiniodd at y siop yn gwerthu cynnyrch tybaco anghyfreithlon i'r swyddog.
Ar ymweliad diweddarach â’r safle ar yr un diwrnod, llwyddodd swyddogion Safonau Masnach atafaelu 225 o becynnau sigarét anghyfreithlon, 63 becynnau o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon, 519 o fêps un-tro anawdurdodedig a halwynau nicotin, ac 20 o nwyddau PRIME anawdurdodedig.
Arweiniodd hyn at bum cyhuddiad yn cael eu dwyn yn erbyn Supercigs Convenience Store Ltd. Ymddangosodd Mr Idres Khder, yr unig gyfarwyddwr ar y cwmni, yn y Llys ar ran y busnes a phlediodd yn euog i bob un o’r pum cyhuddiad.
Gwnaethpwyd tri chyhuddiad o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994, un cyhuddiad o Fasnachu Twyllodrus o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, a chyhuddiad pellach o dan Reoliadau Cynhyrchion Tybaco a Chynhyrchion Anadlu Nicotin 2019.
Rhoddodd Ynadon Caernarfon ddirwy o gyfanswm o £9,062.20 i Supercigs Convenience Store Ltd. Gorchmynnwyd y busnes hefyd i dalu costau o £1,751.48 i'r Cyngor, a gordal dioddefwr o £2,000, sef cyfanswm o £12,813.68. Gorchmynnodd y Llys hefyd i ddinistrio'r holl nwyddau a atafaelwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd:
“Mae ein swyddogion Safonau Masnach yn gweithio’n galed i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus yn y nwyddau maen nhw’n eu prynu o siopau a busnesau’r sir.
“Mae’r achos hwn yn dangos ein bod yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifri, ac rwy’n falch o weld erlyniad safonau masnach lwyddiannus mewn perthynas â gwerthu a chyflenwi tybaco anghyfreithlon a e-sigarét. Mae'r ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb y troseddau hyn.
“Mae masnachu mewn tybaco anghyfreithlon a e-sigarét yn cefnogi trosedd, yn niweidio busnesau cyfreithlon, yn tanseilio iechyd y cyhoedd ac yn hwyluso cyflenwi tybaco ac e-sigarét i bobl ifanc.
“Mae diogelu’r cyhoedd yn flaenoriaeth, a bydd y Cyngor bob amser yn cymryd camau gorfodi lle bo angen i helpu i gadw ein cymunedau lleol yn ddiogel yn ogystal â chefnogi busnesau lleol sy’n cydymffurfio â’r gyfraith.”
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu nwyddau anghyfreithlon yng Ngwynedd i gysylltu â thîm Safonau Masnach Cyngor Gwynedd. Gellir eu hadrodd yn gyfrinachol drwy e-bostio safmas@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01766 771000.