Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Carchar i dwyllwr proffesiynol a dargedodd drigolion bregus


Mae ‘twyllwr proffesiynol’ wedi cael ei ddedfrydu i dros bedair mlynedd o garchar am dwyllo dioddefwyr bregus. Rhyngddynt fe gollodd y dioddefwyr fwy na £500,000. 

Roedd Joseph Anthony Oliver, 34,  a oedd hefyd yn arfer cael ei adnabod fel Joseph Miller, o Lytham St Annes, Swydd Gaerhirfryn, eisoes wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o redeg busnes twyllodrus o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn Llys y Goron Caernarfon ar 8 Mai 2024. 

Cafodd ei erlyn yn dilyn ymchwiliad ar y cyd rhwng Adran Safonau Masnach Ynys Môn, Tîm Ymchwilio Rhanbarthol Safonau Masnach Cymru ac Adran Safonau Masnach Sir Gaerhirfryn. Ariannwyd yr erlyniad gan Safonau Masnach Genedlaethol.

Clywodd y Llys bod Mr Oliver wedi targedu trigolion rhwng mis Ionawr 2017 a mis Mai 2020, tra roedd yn masnachu o dan yr enw LJ Property Solutions Ltd. Gan amlaf byddai’n targedu perchnogion tai hŷn gydag arian wrth gefn a oedd methu â pharhau i ofalu am eu heiddo. Roedd nifer o’i ddioddefwyr yn wŷr neu wragedd gweddw, yn dioddef o broblemau symudedd neu â nam ar eu golwg. Yn yr un modd, rhwng mis Awst 2020 a mis Mehefin 2023, o dan yr enw Windowseal Ltd, fe dargedodd Mr Oliver drigolion agored i niwed yn ardal Sir Gaerhirfryn.  

Roedd y twyll yn dechrau efo galwad diwahoddiad gan y cwmni a oedd yn honni eu bod yn cynnig polisïau cynnal a chadw ffenestri a’u bod yn yr ardal. Yna, roeddent yn trefnu i ddod i asesu ffenestri’r eiddo. Ond, yn dilyn ymchwiliad, canfuwyd mai’r gwir reswm am yr ymweliad cychwynnol a’r ymweliadau dilynol oedd perswadio’r cwsmer bod angen rhagor o waith cynnal a chadw ar yr eiddo.  Roedd hyn yn cynnwys gwaith i’r to a oedd, gan amlaf, yn gwbl ddiangen. Yn aml iawn ni fyddai unrhyw waith yn cael ei wneud neu roedd safon y gwaith mor wael fel bod difrod yn cael ei achosi i’r eiddo. Ar ôl cael eu targedu unwaith byddai’r dioddefwyr yn cael eu targedu a’u hecsbloetio dro ar ôl tro.

Daeth yr ymchwiliad o hyd i 39 o ddioddefwyr rhwng 53 a 93 oed. Roedd naw ohonynt yn byw ar Ynys Môn. Collodd y dioddefwyr hyn rhwng £60 a £120,000 ac roedd cyfanswm y twyll werth dros £500,000.  Yn ogystal â’r difrod i’w heiddo, cafodd y profiad effaith andwyol ar iechyd y dioddefwyr a ddisgrifiodd Mr Oliver fel dyn ‘cyfrwys’, ‘celwyddog’, ‘creulon’ a ‘thwyllwr proffesiynol’. 

Dywedodd y dioddefwyr eu bod wedi dioddef straen a phoen meddwl sylweddol wrth ddelio â Mr Oliver a bod ganddynt gywilydd a’u bod yn teimlo’n gwbl ddiymadferth. Yn anffodus, bu farw nifer o’r dioddefwyr llai na 12 mis ar ôl cael eu twyllo.  

Clywodd y llys bod Mr Oliver wedi cymryd y busnes Window Warranty Ltd drosodd yn 2016, a’i fod wedi cael cyngor a rhybudd gan Adran Safonau Masnach Sir Gaerhirfryn ynglŷn â’i arferion gwerthu twyllodrus. Serch hynny, aeth ati i sefydlu LJ Property Solutions Ltd a pharhau i fasnachu mewn modd twyllodrus o dan yr enw Windowseal Ltd.

Cafodd Mr Oliver ei ddedfrydu i gyfanswm o bedair mlynedd a naw mis o garchar. Cafodd ei wahardd hefyd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am 10 mlynedd.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron yr Wyddgrug yn gynharach heddiw, disgrifiodd y Barnwr Timothy Petts Mr Oliver fel dyn a oedd wedi “ecsbloetio dioddefwyr bregus ac oedrannus” drwy “anonestrwydd ofnadwy”.

Mewn llythyr i’r barnwr yn datgan ei edifeirwch, disgrifiodd Mr Oliver ei droseddau fel “erchyll” a “ffiaidd” a oedd yn wneud iddo “deimlo’n sâl”.

Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, sy’n gyfrifol am y portffolio Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn, “’Da ni’n croesawu’r euogfarn yma ac yn canmol y dioddefwyr am eu dewrder wrth helpu’r Swyddogion Safonau Masnach i erlyn y dyn yma. Mae cymryd mantais o bobl agored i niwed yn gwbl annerbyniol ac ni fyddwn yn gadael i hyn ddigwydd.”

Fe ychwanegodd, “Anogir trigolion sydd wedi dioddef twyll tebyg neu sy’n poeni am rywun sy’n defnyddio’r un math o dechnegau masnachu i ffonio’r gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth ar 0808 223 1133, os nad er eu lles nhw eu hunain i amddiffyn aelodau eraill o’r gymuned a all fod yn agored i’r math yma o dwyll.” 

Gall bobl sy'n credu eu bod wedi dioddef o dwyll hefyd gysylltu ag Action Fraud trwy'u wefan.

Dywedodd yr Arglwydd Michael Bichard, Cadeirydd, Safonau Masnach Cenedlaethol, "Cafodd dioddefwyr yn yr achos yma eu haflonyddu gan alwadau ffôn di-ri nes i Mr Oliver gael yr hyn yr oedd o eisiau i leinio ei bocedi. Gadawyd y dioddefwyr wedi'u draenio'n ariannol ac yn emosiynol ar ôl y profiad. Yn anffodus - nid yw rhai gyda ni bellach.”

"Defnyddiodd dactegau ymosodol a llawdriniol ar ddioddefwyr er mwyn cael symiau mawr o arian ar gyfer gwaith adeiladu a chynnal a chadw nad oedd ei angen. Dangosodd y diffynnydd ddiffyg parch llwyr at les y dioddefwyr ac roedd yn amlwg allan i dwyllo arian, beth bynnag fo'r gost.”

"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn rhoi rhywfaint o gysur i'r rhai gafodd eu heffeithio, ac i deuluoedd y dioddefwyr sydd wedi’n gadael ni bellach. Dylai’r canlyniad heddiw atgoffa pobl na fydd y math yma o drosedd yn cael ei oddef."

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out