Cwpl o Drelyn yn cael eu dedfrydu am droseddau lles anifeiliaid a bridio cŵn yn anghyfreithlon
Mae Colin a Ruth Williams o Glan-ddu Road, Trelyn wedi cael eu dedfrydu ar y cyd yn Llys Ynadon Casnewydd am fridio cŵn heb drwydded, troseddau Deddf Lles Anifeiliaid 2006 a methu â nodi mewn hysbysebion bod cŵn bach yn cael eu hysbysebu gan fridiwr cŵn yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
Cafodd Colin Williams, a oedd yn arfer gweithredu busnes yn masnachu fel Valley Ultrasound and Microchipping, ei ddedfrydu hefyd am droseddau o dan Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007 am gludo ci ar daith dros 65 cilomedr rhwng Caerdydd a maes awyr Heathrow heb yr awdurdodiad gofynnol ac o dan reoliad 9 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 am ddioddefaint diangen i ddwy ast feichiog a gafodd eu cludo’n bell i gael triniaeth filfeddygol.
Cafodd Colin Williams (46 oed) ei garcharu am 16 wythnos am bob trosedd yn gydamserol, ei wahardd rhag bod yn berchen ar, cadw a chludo bob anifail am gyfnod amhenodol a gorchymyn i dalu hanner costau’r erlyniad, sef £5,945.44 a gordal dioddefwr o £154.
Cafodd Ruth Williams (51 oed) ddedfryd ohiriedig 8 wythnos am bob trosedd yn gydamserol, ei gwahardd rhag bod yn berchen ar, cadw a chludo bob anifail am 10 mlynedd a gorchymyn i dalu hanner costau’r erlyniad, sef £5,945.44 a gordal dioddefwr o £154.
Daw’r ddedfryd yn dilyn ymchwiliad gan dîm Safonau Masnach Cyngor Caerffili a weithredodd nifer o warantau, ym mis Mehefin 2023 mewn eiddo a oedd yn cael ei amau o fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bridio cŵn heb drwydded. Fe wnaeth swyddogion, ynghyd â Heddlu Gwent, milfeddyg a chydweithwyr o awdurdodau cyfagos gynnal chwiliad o gartref Colin a Ruth Williams.
Daethon nhw o hyd i 3 chi tarw Ffrengig, 2 gi tarw Prydeinig a 2 sbaengi Siarl Cafalîr wedi'u caethiwo'n ddifrifol mewn corlannau mewn un ystafell heb fynediad at ddŵr. Roedd un o'r corlannau a oedd yn cynnwys 2 gi mewn cilfach o dan y grisiau. Nid oedd yr amodau cyfyng yn darparu digon o le, ni chafodd yr anifeiliaid unrhyw ysgogiad, ac nid oedden nhw'n gallu ymddwyn yn normal.
Roedd gan bob un o'r 9 ci gyflyrau a oedd yn achosi dioddefaint diangen iddyn nhw. Roedd gan 7 ohonyn nhw glefyd y croen, 6 ohonyn nhw glefyd llygaid, 5 ohonyn nhw glefyd y glust, 4 ohonyn nhw Gyflwr Llwybr Anadlu Rhwystrol Byrben (Brachycephalic Obstructive Airway Disease) a chafodd 1 ddiagnosis o ddioddefaint meddwl. Cafodd y cŵn eu symud ar ardystiad y milfeddyg a'u rhoi yng ngofal Hope Rescue cyn eu hailgartrefu.
Dywedodd Lyndsey Smith, Rheolwr Achub a Mabwysiadu, Canolfan Hope Rescue,
"Roedden ni'n falch o allu cynorthwyo'r Awdurdod Lleol drwy ofalu am y cŵn nes bod eu hachos wedi'i ddatrys. Cyrhaeddodd llawer o'r cŵn â phroblemau iechyd, felly, fe gawson ni sioc o glywed eu bod nhw'n dal i gael eu defnyddio ar gyfer bridio.
Ymhlith y cŵn, roedd dwy ast Cafalîr nerfus iawn. Symudon nhw i ofal maeth gyda'i gilydd a datblygu perthynas mor hyfryd, roedd yn rhaid i ni ddod o hyd i gartref iddyn nhw lle gallen nhw aros gyda'i gilydd.
Roedd yn llawer o waith dod o hyd i fabwysiadwr a fyddai nid yn unig yn cymryd 2 gi gyda'i gilydd ond yn cymryd 2 gi gyda phroblemau iechyd parhaus, ond roedden ni mor falch pan ddaeth mabwysiadwr hyfryd ymlaen. Mae'r ddwy nawr yn gwneud yn dda yn eu cartref newydd."
Dywedodd y Cynghorydd Philippa Leonard, Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd,
“Mae bridio cŵn heb drwydded yn fater difrifol a'r gobaith yw y bydd canlyniad yr achos hwn yn ataliad cryf i'r rhai sy'n gweithredu yn y modd hwn. Mae bridio cŵn heb drwydded a safonau uchel o ran lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Awdurdod. Mae unrhyw un sy’n bridio cŵn heb drwydded ac sy’n achosi dioddefaint diangen iddyn nhw yn wynebu risg o ymchwiliad ac, yn y pen draw, erlyniad”.
Os oes unrhyw un yn bryderus neu'n amheus o fridio cŵn yn anghyfreithlon, cysylltwch â'n timau Safonau Masnach neu Drwyddedu. Bydd eich gwybodaeth yn ein helpu ni i fynd i'r afael â bridio cŵn bach yn anghyfreithlon yng Nghaerffili a bydd yn helpu i atal anifeiliaid rhag cael eu hecsbloetio gan fridwyr diegwyddor".
SafonauMasnach@caerffili.gov.uk / Trwyddedu@caerffili.gov.uk