Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Wythnos Safonau Masnach - Diwrnod 5 - Rhad a Rhacs


Mae Safonau Masnach Cymru yn rhybuddio defnyddwyr am fewnforion a ffugiadau rhad a'u hatgoffa o'r ymadrodd “prynu'n rhad, prynu ddwywaith”.  O bryd i'w gilydd, gallai'r 'fargen' honno gostio mwy na'r disgwyl.

Mae'r argyfwng costau byw wedi gyrru defnyddwyr i chwilio am fwy o fargeinion, i drio ymestyn yr arian y maen nhw wedi gweithio'n galed amdano ymhellach. 
Mae’r rhyngrwyd wedi arwain at fynediad aruthrol at ystod o gynhyrchion defnyddwyr sy'n cael eu gwneud yn rhad, yn hawdd eu cyrchu a'u dosbarthu'n eang. 

Er bod mewnforion rhad yn aml yn dwyn y marc CE neu UKCA, gan nodi cydymffurfiad â rheoliadau diogelwch, yn aml nid yw hyn yn wir, a gall fod yn beryglus: boed yn gynhyrchion cosmetig, electroneg neu hyd yn oed fwyd. 

Mae awdurdodau Safonau Masnach yn monitro meysydd awyrennau a phorthladdoedd am fewnforion anghyfreithlon ac yn rhyng-gipio'r rhai y maent yn eu canfod, ond mae'n anochel bod rhai yn mynd drwodd ac yn cyrraedd marchnad y DU i'w prynu gan ddefnyddwyr diarwybod ac sydd â ffydd ynddynt.

Gall defnyddwyr gael eu denu gan frandiau pen uchel am brisiau isel. Yn aml mae cynhyrchion ffug wedi cael eu cynhyrchu'n wael ac o bosibl yn anniogel.

Yn 2022/23 llwyddodd adrannau Safonau Masnach Cymru i atafaelu 12,300 o gynhyrchion gyda gwerth marchnad o £217,000, a dorrodd eiddo deallusol busnes cyfreithlon.

Cafodd bron i 23,000  o gynhyrchion anniogel neu nad oeddent yn cydymffurfio eu hatafaelu neu'u tynnu o'r farchnad yn dilyn ymyriadau Safonau Masnach. 

Ar hyn o bryd mae marchnad ar gyfer cyflenwi cynhyrchion ail-law i ddefnyddwyr sy'n teimlo'r argyfwng costau byw yn brathu. Mae busnesau fel llyfrgelloedd teganau, banciau babanod a siopau eraill yn cyflenwi'r mathau hyn o nwyddau.

Mae angen i gynhyrchion ail-law o'r fath gydymffurfio â rheoliadau diogelwch o hyd, bydd busnesau a sefydliadau cyfrifol yn cael yr eitemau hyn wedi’u harchwilio a'u profi cyn eu rhoi ar werth, ni fydd gwerthwyr llai trylwyr yn cynnal y gwiriadau hyn a gallent fod yn berygl i ddefnyddwyr.

Yn ôl Safonau Masnach Cymru, er bod arferion defnyddwyr yn newid yn gyflym, mae ceir ail-law yn gyson yn parhau i fod ar frig y 5 uchaf am gynnyrch defnyddwyr y cwynir fwyaf amdanynt.  Car yw un o'r pryniannau drutaf y bydd defnyddiwr yn ei wneud ac mewn rhai achosion mae'n hanfodol i gynnal eu safon byw neu gyrraedd eu man gwaith. 

Rhybuddir defnyddwyr y gall masnachwyr diegwyddor geisio gyflwyno eu hunain fel gwerthwyr preifat er mwyn osgoi rhoi hawliau defnyddwyr: a yw'r 'unigolyn preifat‘ hwn yn cynnig llawer o gerbydau i'w gwerthu neu nad ydynt yn bresennol yn hanes y cerbyd?

Yn ystod 2023-24, dangosodd arolygiadau o ragolygon gwerthu ceir gydymffurfiaeth eang, ond hefyd nifer o doriadau sylweddol. Mae 19% o ddelwyr ceir ail-law a arolygwyd hyd yn hyn eleni wedi canfod eu bod wedi torri deddfwriaeth cam-ddisgrifio neu ddiogelwch.

Mae Safonau Masnach Cymru yn cynghori defnyddwyr yn gryf i:

Cynnal gwiriadau cyn siopa wrth brynu car
Cwyno i'r masnachwr cyn gynted ag y bydd unrhyw nam yn ymddangos 
Bod yn ymwybodol bod unrhyw warant a gyflenwir y tu hwnt i'ch hawliau statudol.

Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar  0808 223 1144.  Mae Adrannau Safonau Masnach yn derbyn hysbysiadau cwynion gan Gyngor ar Bopeth, sy'n ein helpu i dargedu busnesau twyllodrus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Wythnos Safonau Masnach Cymru ac ein sianel YouTube

Gellir clywed y podlediad ar gyfer Diwrnod 5 yma

Dilynwch ni ar “X” (“Twitter” gynt) @WalesTS

 
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out