Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Wythnos Safonau Masnach Cymru - Diwrnod 1 - Gofyn am drwbl


Mae Safonau Masnach Cymru yn cynghori defnyddwyr i fod yn ofalus ac i wirio'r disgrifiadau ar gynhyrchion bwyd y maent yn eu prynu, fel eu bod yn hyderus eu bod yn derbyn yr hyn y maent yn ei ddisgwyl ar ôl talu amdano.

Mae adroddiad Effeithiau a Chanlyniadau Safonau Masnach Cymru 2022/23 yn dangos bod dros 1,500 o fusnesau, yn ystod y cyfnod, wedi'u hadnabod yn cyflenwi bwyd a gam-ddisgrifiwyd, heb ddatgan alergenau'n gywir, yn cynnwys cydrannau gwenwynig neu anghyfreithlon neu wedi bod yn gysylltiedig â thwyll bwyd.  Er bod hyn yn cynrychioli canran isel o fusnesau bwyd, ni ellir tanbrisio pwysigrwydd cydymffurfio yn y sector hwn.

Yn ystod mis Mai i fis Awst 2023, ymwelodd Grŵp Bwyd Gwent Fwyaf â 102 o fusnesau bwyd, i archwilio cydymffurfiaeth.  Adroddwyd bod gan 24% labelu alergenau anghywir, ac nad oedd 16% wedi darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth alergenau i staff, ac mewn 7% o fusnesau bwyd, nid oedd staff yn gallu lleoli na chael gafael ar wybodaeth am alergenau bwyd a ddarparwyd iddynt gan eu Gweithredwr Busnes Bwyd.  O ran labelu alergenau rhagofalus, gwnaeth 28% ddatganiad rhagofalus, ond dim ond 21% o'r rheini oedd wedi cynnal asesiad risg i benderfynu a oedd risg wirioneddol o groeshalogi. 

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn parhau â'i gwaith gorsensitifrwydd bwyd ac yn ddiweddar mae wedi ymgynghori ar labelu alergenau rhagofalus.  Mae Safonau Masnach Cymru yn cefnogi datblygiadau sy'n ymwneud â gorsensitifrwydd ac yn parhau i weithio gyda busnesau a defnyddwyr i hyrwyddo ymwybyddiaeth o alergedd trwy hyrwyddo adnoddau alergenau amlieithog ymhellach.  

Mae gwaith pellach wedi'i wneud mewn busnesau bwyd i ystyried crebachu chwyddiant, disgrifiadau maint a phrisiau.  

Yn dilyn tystiolaeth a gasglwyd gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sydd yn dangos bod tua thri chwarter y cyflenwyr brand mewn cynhyrchion fel fformiwla babanod, ffa pob, mayonnaise a bwyd anifeiliaid anwes wedi cynyddu eu proffidioldeb uned ac, wrth wneud hynny, wedi cyfrannu at chwyddiant prisiau bwyd uwch - Cystadleuaeth, dewis a phrisiau cynyddol mewn bwydydd - GOV.UK; Chwyddiant prisiau a chystadleuaeth mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi bwyd a nwyddau - GOV.UK.

Fe wnaeth Safonau Masnach yng Nghymru bwyso neu fesur dros 4,000 o gynhyrchion ‘basged siopa’ cyffredin.  Roedd yn dda nodi mai dim ond 2 gynnyrch oedd o fesur digon byr na ddylent fod wedi cael eu gwerthu. 

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn parhau â'i waith yn y sector groser, ar hyn o bryd yn archwilio cynigion cardiau teyrngarwch Prisiau teyrngarwch yn y sector bwydydd - GOV.UK, ac mae gwasanaethau Safonau Masnach yng Nghymru yn cymryd rhan yn ymchwiliad yr Awdurdod i brisio.

Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae Safonau Masnach Cymru yn cynnig rhybudd i ddefnyddwyr wirio labeli cynhyrchion i fod yn hyderus yn eich pryniannau, a defnyddio prisiau uned yn y siop i benderfynu a yw'r cynnig o'ch blaen yn cyflwyno'r gwerth gorau am arian.  Os ydych yn newid eich brand o fwyd, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd yr un alergenau yn bresennol mewn cynhyrchion o'r un math. 

Yn yr un modd, efallai bod busnesau yn ail-fformiwleiddio eu cynhyrchion presennol i gadw costau i lawr, felly eto, daliwch ati i ddarllen labeli'r cynhyrchion rydych chi'n eu prynu'n gyffredin, hyd yn oed os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod yr alergenau sydd ynddynt.  

Yn olaf, tanysgrifiwch i newyddion gan yr ASB ac Allergy UK am wybodaeth am alergenau a rhybuddion am gynnyrch sy'n cael eu had-alw oherwydd alergenau heb eu datgan.

Os oes gennych gŵyn, cysylltwch â Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.  Mae Adrannau Safonau Masnach yn derbyn hysbysiadau cwynion gan Gyngor ar Bopeth, sy'n ein helpu i dargedu busnesau twyllodrus.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n wefan neu sianel YouTube 

Gellir clywed y podlediad ar gyfer Diwrnod 1 yma

Dilynwch ni ar “X” (“Twitter” gynt) @WalesTS

 
Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out