Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Byddwch yn wyliadwrus o Alwyr Diwahoddiad ECO 4


Mae Safonau Masnach Wrecsam bellach wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau o alwyr diwahoddiad yn ymwneud â grantiau ECO 4. 

Yn gyffredinol mae’r adroddiadau hyn yn ymwneud ag unigolion yn curo ar ddrysau eiddo ac yn honni ei bod yn gweithio ar ran Cyngor Wrecsam, ac nid yw hyn yn wir. Byddai Safonau Masnach bob amser yn eich cynghori i fod yn hynod o ofalus wrth ddelio gydag unrhyw alwyr diwahoddiad yn eich eiddo. Cyn rhuthro i roi gwybodaeth bersonol cymerwch eich amser i ystyried beth sy’n digwydd a dilysrwydd y sawl sydd ar garreg eich drws. 

Os oes gennych unrhyw amheuon ynglŷn â galwr diwahoddiad eglurwch wrthynt nad oes gennych ddiddordeb a chysylltwch â rhif di-argyfwng yr Heddlu ar 101 i ddweud ynglŷn â’r digwyddiad. Os ydych yn amau, cadwch nhw allan. Neu gallwch hefyd gysylltu â Chymru Gynnes ar 01656 747 622

Beth yw cyllid ECO 4?

Mae Rhwymedigaeth Cwmni Ynni 4 (ECO 4) yn rhwymedigaeth ar gyflenwyr ynni sy’n helpu perchnogion tai neu rentwyr preifat i ostwng eu biliau ynni ac allyriadau carbon trwy osod mesurau arbed ynni.

Bydd rhentwyr preifat angen cytundeb eu landlord i wneud unrhyw waith ac i fodloni’r meini prawf cymhwyso angenrheidiol. 

- Cofrestru -

Bydd y cynllun yn parhau tan fis Mawrth 2026 ac yn canolbwyntio ar ostwng tlodi tanwydd mewn aelwydydd incwm isel a rhai diamddiffyn sy’n byw mewn tlodi tanwydd a/neu sydd â phroblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl sy’n cael eu gwaethygu oherwydd eu bod yn byw mewn amodau oer.

Mae’r holl gontractwyr yn rhai a gymeradwywyd gan Trustmark a’u harchwilio’n drwyadl gan Gymru Gynnes, bydd rhestr wedi ei gyhoeddi ar safle Cymru Gynnes ynghyd â’r holl wybodaeth berthnasol arall am y Cynllun.

Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys ar gyfer cyllid ECO, gallwch wneud cais trwy un o’r contractwyr a gymeradwywyd a restrir ar wefan Cymru Gynnes, yn seiliedig ar ba fesurau yr hoffech eu gosod.

Bydd y contractwr a gymeradwywyd yn cysylltu â chi i gynnal arolwg a chanfod pecyn o welliannau sy’n addas a gyfrer eich eiddo.

Mae’r gwelliannau yn cynnwys:

  • Insiwleiddiad atig
  • Insiwleiddiad to ar oleddf
  • Insiwleiddiad to fflat
  • Insiwleiddiad gofod mewn to
  • Insiwleiddiad wal geudod
  • Insiwleiddiad wal allanol
  • Insiwleiddiad wal mewnol
  • Insiwleiddiad llawr (lloriau caled neu loriau crog)
  • Pympiau gwres yr awyr
  • Pympiau gwres o’r ddaear
  • Boeleri nwy
  • Boeleri trydan
  • Boeleri biomas
  • Rheolyddion gwres
  • Gwresogyddion stôr trydan
  • Paneli solar ffotofoltäig
  • Drysau allanol perfformiad uchel
  • Gwydr ffenestri
  • Atal drafft

I wybod mwy ewch i Wefan Cymru Gynnes.

Os ydych angen mwy o gyngor ynglŷn â rhywbeth sydd wedi digwydd ac rydych yn teimlo eich bod wedi eich camarwain cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08082231133 (Llinell Gymorth Saesneg) neu 08082231144 (Llinell Gymorth Gymraeg)

Llun gan Alessandro Bianchi ymlaen Unsplash

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out