Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Cygnor Castell-nedd Port Talbot : Cyrch aml-asiantaeth yn targedu masnachwyr twyllodrus


Roedd sefydliadau partner yn cynnwys Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Cyfoeth Naturiol Cymru, y DVSA, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Yn ystod yr ataliadau, fel rhan o Gyrch Crossfield, dros ddeuddydd, cynghorodd swyddogion y cyngor ar gytundebau a hawliau defnyddwyr, a gwiriwyd trwyddedau Cludwyr Gwastraff a Haearn Sgrap.

Ar yr un pryd, cynhaliodd y timau partneriaeth eraill eu harchwiliadau’u hunain ar ddiogelwch cerbydau a sicrhau nad oedd cerbydau’n defnyddio tanwydd anghyfreithlon.

Gwnaed gwiriadau ar y safle mewn canolfannau rheoli gwastraff ledled y fwrdeistref sirol hefyd.

Canfuwyd fod gan sawl cerbyd ddiffygion diogelwch difrifol, fel teiars oedd wedi gwisgo, llwythi ansefydlog a heb eu rhwymo’n ddigonol, ac mewn un achos, canfuwyd fod rhannau o gerbyd yn hongian i ffwrdd ac yn debygol o dorri’n rhydd.

Ni chaniatawyd i gerbydau o’r fath gael eu symud tan iddyn nhw gael eu trwsio neu’u diogelu.

Gweithredodd Heddlu De Cymru’n gadarnhaol yn erbyn troseddau cyffuriau a thrafnidiaeth ar yr heol yn ystod y cyrch hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Cen Phillips, Aelod Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Llesiant (gyda chyfrifoldeb dros faterion Safonau Masnach a Diogelwch y Cyhoedd): “Mae’r cyrchoedd ar y cyd hyn yn dangos mor ddifrifol mae’r cyngor yn cymryd troseddau Diogelu’r Defnyddiwr neu dipio anghyfreithlon.”

Wrth waredu gwastraff gan ddefnyddio pobl sy’n masnachu mewn cludo gwastraff, dylai deiliaid aelwydydd sicrhau eu bod nhw wastad yn defnyddio masnachwyr ag enw da, sy’n gludwyr gwastraff trwyddedig, am y gallant eu cael eu hunain yn gyfrifol pe bai unrhyw wastraff o’u haelwyd nhw wedyn yn cael ei ganfod wedi’i dipio’n anghyfreithlon.

O ran materion Diogelu’r Defnyddiwr, ar gyfer unrhyw waith a wnaed gan weithiwr mewn tŷ, a’r gwaith yn werth mwy na £42, mae’n rhaid i’r masnachwr ddarparu hawliau canslo yn unol â’r gyfraith. Mae hyn yn rhoi 14 diwrnod i gytundebau gael eu canslo, felly peidiwch da chi â theimlo pwysau i i dalu am waith yn eich cartref eich hun.

Hefyd, cymerwch eich amser i ystyried pa waith sy’n cael ei gynnig, mynnu dyfynbrisiau eraill, a gwnewch waith ymchwil ar fusnes cyn cytuno ar unrhyw beth. Peidiwch â thalu’r swm llawn cyn i unrhyw waith gael ei wneud, a threfnwch i dalu gam wrth gam ar waith mawr.

Gwiriwch unrhyw honiad fod rhywun yn aelod o sefydliadau masnach neu gynlluniau cymeradwyo, neu defnyddiwch gynllun cymeradwyo masnachwr fel Buy With Confidence i gyflogi gweithiwr a wiriwyd.

Gall deiliaid cartrefi a busnesau sydd eisiau cwyno am unrhyw fasnachwr y maen nhw wedi mynd i gytundeb â nhw, ffonio llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144 (Cymraeg) 0808 223 1133 (Saesneg). Gellir gweld mwy o wybodaeth am gludwyr gwastraff, gan gynnwys bas data’r cludwyr gwastraff ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru / Gwirio hawlen, trwydded neu eithriad (Cofrestr Gyhoeddus). 

Delwedd John Cameron a Unsplash

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out