Yn cynrychioli holl wasanaethau safonau masnach ledled Cymru
Representing all trading standards services across Wales

Safonau Masnachu Abertawe : Pennaeth Canolfan Alwadau yn Abertawe'n cael ei garcharu


Roedd Rhodri Rees, 37 oed o Sandfields, Port Talbot, yn Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni o Abertawe a oedd yn masnachu dan nifer o enwau, gan gynnwys, HES Synergy Limited a HES Savings Audit Ltd.

Roedd y cwmni'n ymwneud â busnes hawliadau Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) ac addawodd y byddai miloedd o bunnoedd yn cael eu had-dalu i ddioddefwyr ar ôl iddynt dalu ffi o flaen llaw.

Ymddangosodd Mrs Rees yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, 20 Hydref i'w ddedfrydu, yn dilyn ymchwiliad hir gan Safonau Masnach Cyngor Abertawe, a oedd wedi casglu llawer iawn o dystiolaeth a ddefnyddiwyd i dynnu sylw at weithgarwch anghyfreithlon y cwmni.

Cynhaliwyd y gweithgarwch twyllodrus hwn dros nifer o fisoedd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2015, pan gwnaethpwyd 53 miliwn o alwadau awtomataidd i'r cyhoedd ar draws y DU.

O ganlyniad i'r galwadau hynny, roedd llawer o unigolion wedi ffonio'r cwmni yn ôl i holi am y cynnig a chawsant eu twyllo'n ddiweddarach i roi cannoedd o bunnoedd iddo.

Cafodd Safonau Masnach Cyngor Abertawe eu rhybuddio am y busnes twyllodrus yn dilyn ymchwiliadau cychwynnol gan Uned Rheoliadau Rheoli Hawliadau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a oedd wedi derbyn cwyn ac wedi archwilio dilysrwydd cyfarwyddwyr a enwyd y cwmni.

Ar ôl cadarnhau nad oedd y ddau gyfarwyddwr a restrwyd (Aled Rees a Rhodri Rees) wedi'u hawdurdodi gan y Rheolydd Rheoli Hawliadau i ymgymryd ag unrhyw weithgarwch rheoli hawliadau rheoledig, ymwelodd Safonau Masnach yn ddirybudd â'r fangre busnes yn Castell Close, Llansamlet.

Daeth swyddogion o hyd i sgriptiau yn y fangre a oedd yn darparu tystiolaeth fod cwsmeriaid yn cael eu camarwain i roi cannoedd o bunnoedd ar ôl cael addewid y byddent yn derbyn hawliadau ariannol mawr.

Cafodd un ar bymtheg aelod o staff y cwmni, gan gynnwys y cyfarwyddwyr, rybuddiad ynghyd â chyfweliad ac fe'u cyhuddwyd ar ôl hynny o droseddau'n ymwneud â thwyll.

Yn flaenorol, plediodd y diffynyddion yn euog i'r troseddau yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach yn y flwyddyn.

Er bod Mr Rees wedi derbyn dedfryd o garchar ar unwaith, cafodd pob diffynnydd arall ddedfrydau o garchar wedi'u gohirio am eu rôl yn y busnes anonest. 

Meddai David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol yng Nghyngor Abertawe, "Mae'r achos diweddaraf hwn yn enghraifft arall sy'n peri pryder o unigolion yn sefydlu cwmnïau i dwyllo'r cyhoedd yn fwriadol o'u harian mawr ei angen.

"Mae'n amlwg iddynt fanteisio ar natur ddiamddiffyn y cyhoedd, yr oedd angen arian ychwanegol arnynt o bosib ar gyfer hwy eu hunain a'u teuluoedd.

"Mae ein tîm Safonau Masnach wedi gweithio'n eithriadol o galed i ddatgelu ymddygiad anonest y busnes hwn ac rwy'n falch ein bod wedi gallu cau'r busnes a chymryd camau yn erbyn yr holl rai a oedd yn gysylltiedig ag ef.

"Mae galwadau awtomataidd digymell yn rhywbeth rydym wedi dod yn gyfarwydd ag ef yn ein bywydau dyddiol, ac mae'n debygol bod pob un ohonom wedi derbyn galwad ar ein ffonau personol. Fy nghyngor i yw anwybyddu'r galwadau hyn, lle mae cwmnïau'n gwneud addewidion i gynnig symiau mawr o arian.

"Yr un yw ein cyngor bob tro - os yw'n rhy dda i fod yn wir, mae'n debygol mai dyna'n union ydyw."

 

Delweddau rhag Petr Macháček & Arlington Research dod o hyd arUnsplash

Erthygl flaenorolErthygl Nesaf
Your session will expire in xx.xx. Do you wish to Continue or Log Out
Your session will expire in xx.xx
Continue or Log Out