Safonau Masnach Sir y Fflint : Twyllwyr yn defnyddio negeseuon ffug bod unigolion ac anifail ar Facebook
Dyma sut mae’n gweithio: Rydych yn gweld neges Facebook am berson a/neu anifail coll, ac felly rydych yn ei rannu. Mae mwy a mwy o bobl yn rhannu’r neges hwn nes bydd wedi cyrraedd ymhell. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd twyllwyr yn golygu’r negeseuon i ddangos twyll gyda dolenni gwe-rwydo. Mewn llawer o achosion byddant yn newid y neges i hysbysebu arolygon neu wefannau tai, sydd yn eu galluogi i gael arian.
Gan eich bod wedi ei rannu, efallai bydd eich ffrindiau yn eu clicio yn anfwriadol yn meddwl eich bod yn eu hargymell. Yn aml iawn, mae’r sylwadau ar y negeseuon hyn wedi eu hanalluogi hefyd fel na all defnyddwyr eraill eich rhybuddio.
Cyn rhannu unrhyw negeseuon fel hyn, edrychwch yn iawn arnynt, weithiau gallwch ddweud wrth edrych yn y cefndir na chafodd y llun ei dynnu yn y DU e.e. ceir gyda rhif cofrestru tramor, mathau o dai a choed.
Edrychwch ar broffil gwreiddiol yr unigolyn sy’n ei roi, bydd hwn yn aml iawn yn gyfrif newydd heb ddim ffrindiau, a dim ond un llun proffil ac efallai bydd eu lleoliad yn nodi eu bod yn byw mewn gwlad wahanol.
Adroddwch y twyll hwn i Facebook fel y gellir eu tynnu ac adrodd i Action Fraud https://www.actionfraud.police.uk
Lluniau gan Timothy Hales Bennett a Erik Mclean yn Unsplash