Dwyn erlyniad llwyddiannus yn erbyn perchnogion NRJ Motor Company Ltd.
Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dwyn erlyniad llwyddiannus yn erbyn swyddogion NRJ Motor Company am gam-werthu car fel un a oedd mewn 'cyflwr rhagorol', ond mewn gwirionedd roedd mewn cyflwr peryglus, nad oedd yn addas i'w ddefnyddio ar y ffordd fawr.
Ar 22 Mehefin 2023 plediodd David Bonner-Evans, Susan Bonner-Evans a James Bonner-Evans yn euog am gymryd rhan mewn arfer masnachol a oedd yn gamarweiniol, yn groes i reoliadau 9 ac 13 o Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a chyflenwi cynnyrch yr oeddent yn gwybod neu y dylent fod wedi gwybod eu bod yn beryglus, yn groes i reoliadau 8(1)(a) ac 20(1) o Reoliadau Diogelwch Cynhyrchion Cyffredinol 2005.
Ym mis Mai 2022, prynodd myfyriwr 22 oed, Fiat Punto gan NRJ Motor Company. Hysbysebwyd y Fiat Punto fel un 'wedi'i gynnal a'i gadw'n dda iawn' a byddai'n cynnwys 'gwasanaeth newydd sbon'. Honnodd yr hysbyseb fod NRJ Motor Company yn 'ddelwriaeth yr oedd yr AA yn ymddiried ynddo' ac yn 'fusnes teuluol gyda dros 40 mlynedd o brofiad'. Dywedodd hefyd fod y cerbyd wedi derbyn MOT ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2021, wedi'i wasanaethu ym mis Chwefror 2022 a'i fod wedi'i ddisgrifio fel un mewn 'cyflwr rhagorol'.
Ategodd hysbyseb ychwanegol ar y car fod y cerbyd wedi cael 'gwasanaeth newydd sbon', yn cynnwys 'gwarant am ddim' a 'blwyddyn o yswiriant torri i lawr gyda'r AA'.
Cyn prynu'r car ac ar ôl mynd â'r cerbyd am brawf gyrru, hysbyswyd y cwsmer gan y gwerthwr, a nododd ei fod yn berchennog y cwmni, bod y car mewn 'cyflwr rhagorol' a dywedodd mai dim ond un perchennog fu gan y cerbyd a'i fod wedi'i gynnal a'i gadw'n dda iawn. Roedd wedi dweud bod milltiroedd cymharol isel ar y car, ei fod yn rhad i'w drethu ac yn ardderchog ar danwydd. Dywedodd cydberchennog y busnes wrthi fod gan y car MOT a gwasanaeth cyfredol, ac roedd y dogfennau hyn yn y car.
Fodd bynnag, yn ystod wythnos gyntaf Mehefin 2022, daeth yn amlwg bod gan y car broblemau sylweddol. Roedd golau rhybuddio'r bag aer ar y dangosfwrdd wedi dod ymlaen ac roedd motor y ffenestr ar ochr y gyrrwr wedi methu ac roedd aer yn cadw gollwng allan o'r olwyn gefn bob ychydig ddyddiau.
Cytunodd NRJ Motor Company i fynd â'r car i mewn i'w atgyweirio, gyda'r ffenestr yn cael ei hatgyweirio, a'r busnes yn nodi nad oedd dim o'i le ar y bag aer, ond roedd y golau rhybuddio yn dal ynghynn.
Ar 8 Gorffennaf 2022, gwnaeth y teiar ar ochr y teithiwr yng nghefn y car fyrstio tra bod y cerbyd yn cael ei yrru. Ar 11 Gorffennaf, ar ôl newid y teiar, clywodd y myfyriwr ifanc sŵn twrw uchel iawn wrth yrru. Wrth archwilio'r car, sylwodd ei thad fod problem ddifrifol gyda'r olwyn gefn ar ochr y teithiwr a dywedodd wrthi am beidio â gyrru'r car.
Er gwaethaf y warant o flwyddyn ar y car, gwrthododd David Bonner-Evans o NRJ Motor Company gasglu'r car nac unioni'r problemau.
Yna cysylltodd y myfyriwr a'i rhieni â Thîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin, a benododd arbenigwr i archwilio'r car. Dangosodd archwiliad manwl nam arbennig o ddifrifol gydag echel cefn y car wedi cyrydu, gan wneud y cerbyd nid yn unig yn anaddas i'r ffordd ond yn beryglus hefyd.
Pwysleisiodd y barnwr fod y drosedd yn ddifrifol iawn ac y gallai fod wedi achosi damwain ddifrifol iawn.
Cafwyd hyd i nifer o broblemau ychwanegol a fyddai'n gwneud y cerbyd yn anaddas i'r ffordd ac yn denu hysbysiadau methiant yn ystod MOT hefyd.
Yn dilyn y ple euog, dedfrydwyd David Bonner-Evans, Susan Bonner-Evans a James Bonner-Evans i ddirwy o £1500 yr un, cyfanswm costau o £6678.60 gydag un rhan o dair i dalu yr un, iawndal o £1760.75 i'r dioddefwr, a gordal o £150.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Arweinydd y Cabinet dros Safonau Masnach:
"Gallai canlyniad yr achos yma fod wedi bod yn drasig gan nad oedd y cerbyd a werthwyd i'r dioddefwr gan David Bonner-Evans, Susan Bonner-Evans a James Bonner-Evans yn ffit i fod ar y ffordd.
Hoffwn ddiolch i'n Tîm Safonau Masnach am ddal y bobl hyn i gyfrif a dod â nhw o flaen eu gwell."