Dirwy o bron i £20,000 i gwmni soffas
Mae Suzanne Dickenson, Cyfarwyddwr Trade Price Sofas (Merthyr Tudful) Cyfyngedig (TPS) wedi cael dirwy o bron i £20,000 am fynd yn groes i ofynion labelu sy’n ofynnol o dan Reoliadau Dodrefn a Deunyddiau (Tân) (Diogelwch) 1988.
Cafodd siopau TPS sydd wedi’u lleoli ym Mharc Hepworth, Pont-y-clun ac Ystad Ddiwydiannol Penygarnddu, Merthyr Tudful eu harchwilio'n llawn o ganlyniad i gŵyn gan ddefnyddiwr, a oedd yn honni bod y Gyfarwyddwraig Mrs Suzanne Dickenson wedi gwneud datganiadau camarweiniol mewn perthynas â pholisi dychwelyd y cwmni. Roedd hyn yn groes i Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.
Yn ystod yr archwiliadau, cafodd troseddau sy'n groes i'r gofynion labelu sy'n ofynnol gan Reoliadau Dodrefn a Deunyddiau (Tân) (Diogelwch) 1988, o ran labeli arddangos a labeli parhaol, eu nodi hefyd. Yn ogystal â hynny, mae Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005 hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r cynhyrchydd labelu dodrefn neu becynnau perthnasol â'i enw a'i gyfeiriad, yn ogystal â chyfeirnod cynnyrch neu rif swp. Mae peidio â chydymffurfio â hyn yn mynd yn groes i Reoliad 20(2).
Doedd dim labeli arddangos ar 31 eitem o ddodrefn a doedd dim labeli parhaol ar 15 eitem o ddodrefn. Doedd gan 33 eitem o ddodrefn clustogog ddim rhifau swp na manylion y cynhyrchydd ar y labeli parhaol a oedd ynghlwm wrthyn nhw, a doedd dim deunydd pecynnu ynghlwm wrth y cynhyrchion. O ganlyniad i hyn, cafodd Hysbysiadau Atal eu cyhoeddi o dan Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005.
Mae'n ofynnol i'r dosbarthwr (TPS) gadw'r dogfennau angenrheidiol ar gyfer olrhain tarddiad y cynnyrch yn ôl y Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol. Yn ystod yr ymchwiliad, cafodd swyddogion fanylion cyswllt cyflenwyr gan Mrs Dickenson mewn perthynas â'r dodrefn a oedd yn destun hysbysiad atal. Cafodd ei ganfod yn ddiweddarach bod rhywfaint o'r wybodaeth yma'n ffug. Mae darparu gwybodaeth ffug yn drosedd sy’n groes i Adran 12(4)(b) o Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987.
Cafodd pedwar eitem o ddodrefn nad oedd yn cydymffurfio â gofynion labelu eu hatafael a'u hanfon i'w profi. Methodd pob eitem y profion a gynhaliwyd o ran gofynion fflamadwyedd mewn perthynas â'r ewyn, y deunydd gorchuddio neu'r ddau. Cafodd ei ganfod hefyd bod Mrs Dickenson wedi torri amodau'r hysbysiad atal dros dro drwy werthu dodrefn a oedd wedi'i restru arno.
Rhaid i ddodrefn clustogog domestig fodloni safonau diogelwch tân, sy'n cynnwys y deunyddiau, llenwadau ewyn a llenwadau di-ewyn, fel plu.
Wrth brynu unrhyw ddodrefn clustogog, rydyn ni'n annog defnyddwyr i chwilio am y label arddangos - tocyn sy'n hongian ynghlwm wrth y dodrefn, a ddylai fod yn hawdd ei weld. Mae modd i'r label parhaol fod o dan glustog sedd rhydd neu, os yw'r clustogwaith wedi'i osod yn sownd, efallai ei fod ar waelod yr eitem neu wedi'i leoli rhwng y sedd a'r cefn.
Mae'r label parhaol yn cynnwys gwybodaeth bwysig am ddiogelwch eich soffa ac yn caniatáu i sampl gael ei nodi os bydd unrhyw broblemau'n cael eu nodi o ran y broses gynhyrchu. Ar ôl prynu soffa efallai y byddwch chi'n teimlo bod y label parhaol yn hyll ac yn ystyried cael gwared arno. Rydyn ni'n awgrymu'n gryf i chi beidio â gwneud hyn. Pe byddech chi'n prynu soffa newydd yn y dyfodol, fyddai dim modd i chi roi eich hen soffa i gyfleuster ailddefnyddio neu elusen heb label parhaol, gan mai dyma'r unig ffordd o wirio bod y soffa yn bodloni rheoliadau tân y DU. Heb y label yma, bydd angen i'r soffa fynd i'r ganolfan ailgylchu gwastraff.
Meddai Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned:
“Mae’r erlyniad pwysig yma'n amlygu pwysigrwydd gwirio’r nwyddau rydych yn eu prynu a sicrhau eu bod nhw'n ddiogel i fod yn eich cartref. Yn ffodus iawn yn yr achos yma, rhoddodd rhywun wybod i ni am y broblem ac roedd modd atal yr eitemau rhag cael eu gwerthu a pheri niwed i'r cyhoedd. Rydyn ni'n annog ein preswylwyr i wirio'r labeli ar unrhyw ddodrefn y maen nhw'n ei brynu ac i roi gwybod am unrhyw beth sy'n edrych yn amheus.
“Mae Mrs Dickenson, wedi gorfod talu bron i £20,000, ond gallai’r pris fod wedi bod yn llawer uwch. Gobeithio y bydd y ddedfryd y mae hi wedi’i derbyn yn sicrhau ei bod hi ddim yn torri'r gyfraith eto, ac yn annog busnesau eraill i gadw at y ddeddfwriaeth er diogelwch y cyhoedd.”
Ymddangosodd cyfarwyddwr y cwmni, Mrs Suzanne Dickenson, yn y llys fis diwethaf a chafodd ei chyhuddo o'r canlynol:
Cyhuddiadau:
Plediodd Mrs Dickenson yn euog i 53 o gyhuddiadau. Roedd hyn yn cynnwys 42 o droseddau o ran labelu a 6 trosedd o ran peidio â chydymffurfio â gofynion fflamadwyedd yn groes i Reoliad 12(1) Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987. Cafodd Mrs Suzanne Dickenson ei chyhuddo yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr TPS am y drosedd honno o dan Adran 40(2) Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987
4 trosedd o ran torri Hysbysiad Atal i Reoliad 20(4) Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005, cafodd Mrs Suzanne Dickenson ei chyhuddo yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr TPS am y drosedd honno o dan Reoliad 31(2) o Reoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005
1 drosedd o ran gwneud datganiad ffug mewn perthynas â manylion gweithgynhyrchu yn groes i Adran 12(4)(b), cafodd Mrs Suzanne Dickenson ei chyhuddo yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr TPS am y drosedd honno o dan Adran (40)(2) o Ddeddf Diogelu Defnyddwyr 1987
Dedfryd
Trosedd 1 - Dirwy o £1000
Trosedd 36 - Dirwy o £1000
Trosedd 43 - Dirwy o £1500
Trosedd 44 - Dirwy o £1500
Trosedd 48 - Dirwy o £2000
Cyfanswm y ddirwy: £7000
Gordal y Llywodraeth - £2000
Costau - £7693.47
Iawndal - £2899.99 i'r defnyddiwr.
I’w dalu ar gyfradd o £500 y mis yn dechrau ar ddiwrnod gwaith olaf y mis nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth am safonau masnach a hawliau defnyddwyr ewch i www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach