Atafaelu hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon yn Wrecsam a Sir y Fflint mewn ymgyrch ar y cyd
Yn ystod wythnos olaf mis Mai 2023, bu ymgyrch ar y cyd er mwyn aflonyddu ar werthu baco'n anghyfreithlon yn Wrecsam a Sir y Fflint. Atafaelwyd dros 500,000 o sigaréts a llawer iawn o e-sigaréts anghyfreithlon.
Cymerodd swyddogion o Safonau Masnach, Gorfodi Mewnfudo, y Swyddfa Eiddo Deallusol a Heddlu Gogledd Cymru ran yn yr ymgyrch, gyda chymorth cŵn canfod baco o WagtailUK.
Chwiliwyd siopau a stordai yn y ddwy ardal, gyda'r atafaelu unigol mwyaf sef hanner miliwn o sigaréts mewn tŷ yn y Fflint.
Casglwyd dros £10,000 mewn arian parod a nifer o liniaduron a ffonau hefyd. Ar ben hyn, cafwyd nifer llai o faco ac e-sigaréts tafladwy anghyfreithlon o allfeydd mân-werthu yn Wrecsam a ledled Sir y Fflint.
Atafaelwyd hefyd sachau teithio yn cadw eitemau anghyfreithlon ac a oedd yn cael eu cario tu allan i siopau yn Wrecsam. Cynorthwyodd Gorfodi Mewnfudo gyda gwiriadau a chael cudd-wybodaeth gwerthfawr.
O ganlyniad i'r ymgyrch, casglwyd cudd-wybodaeth manwl am gerbydau cyflenwi yn cynnwys baco anghyfreithlon. Bydd tystiolaeth o guddio yn cael ei dosbarthu i Heddlu'r Ffiniau ac AHEM er mwyn eu cylchredeg i awdurdodau porthladdoedd.
Nod yr ymgyrch oedd aflonyddu baco anghyfreithlon, sy'n cael ei ddosbarthu a'i gyflenwi drwy rwydweithiau troseddol trefnedig, sy'n aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall ac sy'n dod â throsedd i gymunedau lleol.
Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Roberts o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r ymgyrch gydlynol hon yn dangos gwerth gwaith partneriaeth amlasiantaeth a ledled awdurdodau er mwyn atal troseddau difrifol a threfnedig yn ein hardal.
"Mae baco anghyfreithlon, a gyflenwyd drwy rwydweithiau troseddol trefnedig, yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall. Dyna pam mae'n bwysig ein bod yn parhau i aflonyddu ar fusnes cynhyrchu baco anghyfreithlon.
"Rwyf yn gobeithio fod cymunedau lleol, yr ydym yn dibynnu arnynt am wybodaeth a chudd-wybodaeth, yn dawelach eu meddwl gan ganlyniadau'r gweithredu fu'r wythnos ddiwethaf."
Dywedodd Richard Powell, Rheolwr Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint: "Mae'r atafaelu mawr o'r tŷ preifat yn arwyddocaol. "Dyma storfa ganolog dosbarthu sawl allfa ledled y sir a thu hwnt. Bydd colli'r baco hwn yn effeithio ar argaeledd cynnyrch anghyfreithlon.
"Mae'n bwysig ein bod yn dal i ymlid y farchnad baco anghyfreithlon. Mae canlyniadau'r cyrchoedd hyn yn dangos pa mor effeithiol ydy ymgyrchoedd ar y cyd.
"Ynghyd a'r nifer fawr o faco anghyfreithlon a gasglwyd, gwnaeth swyddogion atafaelu cynnyrch e-sigaréts anghyfreithlon, dros £10,000 mewn arian parod a nifer o liniaduron a ffonau.
Ychwanegodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach yng Nghyngor Wrecsam, a Phrif Swyddog Baco ar gyfer Safonau Masnach Cymru: "Mae ysmygu yn lladd dros 5000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn. Gwnaiff hanner holl ysmygwyr tymor hir farw o ganlyniad uniongyrchol i'w cast drwg.
"Mae baco anghyfreithlon yn sigaréts neu faco wedi'i rolio sydd wedi'i smyglo a lle nad oes toll wedi'i thalu. Mae hyn yn golygu y gellir ei werthu am lai na hanner pris baco sydd wedi'i dalu gyda tholl gyfreithlon. Mae hyn yn creu problem sylweddol yn ein cymunedau.
"Mae'n ei gwneud hi'n llawer haws i blant gael mynediad at faco a bod yn gaeth am oes. Mae'n ei gwneud hi'n llawer anoddach i ysmygwyr roi'r gorau iddi."
Mae ymchwiliadau'n parhau.
Os ydych chi'n ymwybodol bod baco anghyfreithlon yn cael ei werthu yn eich ardal chi, rhowch wybod amdano yn NO IFS. DIM BUTTS yma - https://noifs-nobutts.co.uk/
Gallwch hefyd ei riportio'n ddienw drwy'r elusen annibynnol, CrimeStoppers.