Newyddion am swyddi gwag: Dau Swyddog Trwyddedu Anifeiliaid
Mae dau gyfle cyffrous ar gael i ddod yn rhan o’r ymdrech i sicrhau bod Cymru yn parhau i arwain y gad yn fyd eang o ran amddiffyn lles anifeiliaid.
Mae Sir Fynwy yn arwain Prosiect Bridio Cŵn ar ran Safonau Masnach Cymru sydd yn ceisio datblygu cysondeb ar draws y diwydiant bridio cŵn.
Bydd pob rôl yn gyfrifol am ranbarth ar draws Cymru gan sicrhau ein bod yn amddiffyn lles cŵn a chŵn bach, a hynny drwy gyfrwng model newydd sydd yn berthnasol nid yn unig i bob un gweithrediad masnachol ond sydd hefyd yn gwella’r effeithiolrwydd o ymladd ac atal gweithgareddau anghyfreithlon, na sydd wedi eu trwyddedu.
Cliciwch yma am fwy o fanylion
Cyfeirnod Swydd: RTS300
Gradd: BAND F SCP £27,852 – SCP £30,151 Pro Rata (os yn berthnasol)
Oriau: 37 awr yr wythnos ond rydym yn hapus i ystyried opsiynau eraill
Lleoliad: Hyblyg
Dyddiad Cau: 05/05/2023 12:00 pm
Dros dro: Ydi, tan 31 Mawrth 2025 (estyniad yn amodol ar gyllid)
Gwiriad DBS: Nid oes angen gwiriad