Cyfarwyddwr cwmni yn cael gorchymyn i dalu £9000 o iawndal a dedfryd ohiriedig am dwyll a dwyn
Yn dilyn ymchwiliad gan adran Safonau Masnach Cyngor Castell-nedd Port Talbot, mae Nicholas REES, sef cyfarwyddwr cwmni tirlunio o Resolfen o'r enw “Total Landscaping Solutions Ltd”, a fanteisiodd ar ddefnyddwyr agored i niwed ac a wnaeth honiadau anwir, wedi cael dedfryd o wyth mis o garchar, sydd wedi'i gohirio am ddwy flynedd, a gorchymyn i dalu £9000 o iawndal yn Llys y Goron Abertawe am droseddau yn ymwneud â thwyll a dwyn.
Ym mis Rhagfyr 2020, cafodd yr adran gŵyn am Total Landscaping Solutions Ltd, a oedd wedi ymrwymo i gontract yn lleol â phâr oedrannus i adnewyddu eu gardd fel y gallent ei defnyddio a'i mwynhau yn ystod eu hymddeoliad. Roedd y dyfynbris gwreiddiol am y gwaith yn fwy na £15,000. Roedd y ffigur yn cynnwys swm o fwy na £2,500 o dreth, y dywedodd Rees na fyddai'n ei godi pe bai'r achwynydd yn talu ag arian parod. Cytunwyd ar hyn, a'r pris terfynol oedd £13,000. Talodd y pâr flaendal o £6,500, a byddai'r gweddill yn ddyledus ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.
Ni ddechreuodd y cwmni ar y gwaith ar y dyddiad dechrau y cytunwyd arno, gan gynnig amrywiol esboniadau. Tua phythefnos ar ôl y dyddiad dechrau gwreiddiol, dechreuodd y gwaith yn araf, gyda chyflogeion y cwmni'n treulio awr neu ddwy y dydd yn yr eiddo.
Ychydig ddyddiau ar ôl dechrau ar y gwaith, gofynnodd Rees – sy'n 38 oed ac yn byw yn Yeo Street, Resolfen – am daliad pellach o £3,500 i dalu am ddeunyddiau, gan ddweud mai'r rheswm oedd bod y cwmni'n newydd a bod pris deunyddiau wedi codi.
Unwaith eto, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, gofynnodd Rees am daliad arall o £2,500, ac fe'i cafodd.
Ddechrau mis Tachwedd, dywedodd Rees wrth yr achwynydd y byddai'n cwblhau'r gwaith y diwrnod hwnnw, felly cafodd y taliad olaf o £3,000. Ni chafodd y gwaith ei gwblhau.
Oherwydd y tywydd garw a'i anableddau, nid oedd modd i'r achwynydd fwrw golwg dros y gwaith am beth amser. Pan wnaeth hynny, gwelodd fod yr ardd yn llithrig ac yn beryglus iawn, a gallai weld bod y stepiau'n llawer rhy serth a pheryglus. Dywedodd ei bod yn ymddangos bod y stepiau wedi cael eu hadeiladu'n wael a bod y pren yn edrych yn simsan ac yn hollt ac anwastad.
Aeth Mr Timothy DAVIES, sy'n Syrfëwr Adeiladau Siartredig, yn Dyst Arbenigol ac yn Brisiwr sydd wedi'i Achredu gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) i'r eiddo. Yn ei adroddiad, dywedodd:
‘Yn fy marn i, mae'r safonau crefftwaith yn llawer is na'r safon ofynnol sy'n dderbyniol yn y diwydiant ac, ar y cyfan, mae'n ofnadwy. Nid oes fawr ddim tystiolaeth o sgìl na chymhwysedd i'w gweld yn y gwaith sydd wedi'i gwblhau hyd yma ar y safle.’
Dywedodd Mr Davies y byddai'r deunyddiau a ddefnyddiwyd ar y safle'n costio cyfanswm o tua £1371.40. Hefyd, dywedodd mai cost cwblhau'r gwaith i safon ofynnol dderbyniol, gan gynnwys costau llafur ac offer, fyddai tua £3000-£4000 (heb gynnwys TAW). Felly, cyfanswm y gost am gwblhau'r gwaith i safon ofynnol dderbyniol fyddai £5371.40.
Aeth Mr Davies yn ei flaen i ddweud y bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o'r gwaith gael ei dynnu oddi yno a'i ail-wneud gan grefftwr profiadol. Amcangyfrifodd y byddai'n costio tua £6000-£7000 i ail-wneud y gwaith.
Roedd ail achwynydd wedi cyflogi Rees a Total Landscaping Solutions Ltd yn ystod mis Hydref 2020 i wneud gwaith yn ei eiddo. Dechreuwyd ar y gwaith, yn unol â'r hyn a drefnwyd, yn ystod mis Mai 2021. Fodd bynnag, wrth nesáu at ddiwedd y gwaith, dywedodd Rees wrth yr achwynydd, a hynny'n gelwyddog, nad oedd wedi cael ei dalu am waith roedd wedi bod yn ei wneud yn Tai Tarian gan olygu y byddai'n dirwyn y cwmni i ben, ac felly na fyddai'n gallu cwblhau'r ffens er ei fod wedi cael ei dalu am y gwaith ymlaen llaw.
Ar ôl i Rees bledio'n euog i dri chyhuddiad o dwyll drwy ymhonni'n anwir ac un cyhuddiad o ddwyn £3,000 ar 2 Mawrth 2023, gohiriodd Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB y gwrandawiad dedfrydu er mwyn rhoi amser i Rees wneud ad-daliad rhannol gwirfoddol o £3000 i'w rannu rhwng ei ddioddefwyr.
Pan gynhaliwyd y gwrandawiad dedfrydu ar 31 Mawrth 2023, dywedodd Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB fod Rees yn dwyllwr masnach nodweddiadol sy'n manteisio ar ddioddefwyr agored i niwed gan ychwanegu gwaith a chostau ffug. Dywedodd hefyd fod yr effaith yn fwy na'r golled ariannol a bod y niwed yn y straen a'r pryder a achosir i ddioddefwyr.
Gan gydnabod ei fod wedi pledio'n euog, rhoddodd y Barnwr ddedfryd o wyth mis o garchar i REES mewn perthynas â'r dioddefwr cyntaf, a chwe mis o garchar mewn perthynas â'r ail ddioddefwr, gyda'r ddwy ddedfryd yn cydredeg. Byddai'r cyfnod o garchar yn cael ei ohirio am ddwy flynedd.
Aeth Ei Anrhydedd y Barnwr Paul Thomas CB yn ei flaen i ddweud y byddai gohirio'r cyfnod o garchar yn galluogi Rees i barhau i dalu'n ôl i'w ddioddefwyr, a gorchmynnodd iddo dalu £250 y mis am gyfnod o dair blynedd, a fyddai'n cael ei rannu rhwng y ddau ddioddefwr. Rhoddodd y Barnwr hefyd ddedfryd o 20 diwrnod o Weithgarwch Gofynion Adsefydlu a 200 awr o waith di-dâl iddo.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ac Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol, y Cyngh. Alun Llewelyn: “Rydym yn croesawu'r ddedfryd a roddwyd ac yn falch bod y llys wedi cydnabod y golled ariannol a'r niwed meddyliol a achoswyd i'r dioddefwyr. Mae'r adran Safonau Masnach yn ddigyfaddawd o ran ymchwilio i fusnesau sy'n herio'r gyfraith ac yn targedu pobl agored i niwed.”
“Mae'r gwasanaeth yn hyrwyddo cynllun cymeradwyo masnachwyr a gynhelir gan Safonau Masnach Cenedlaethol o'r enw ‘Buy With Confidence’. Caiff masnachwyr cyfreithlon a chyfrifol eu hannog i gysylltu â'r adran er mwyn ymuno â'r cynllun. Dylai defnyddwyr edrych ar wefan ‘Buy With Confidence’ er mwyn dod o hyd i fasnachwyr cymeradwy”.
Os hoffech roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau o'r fath, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor i Bopeth ar 0808 2231144 i siarad â chynghorydd yn Gymraeg, neu 0808 223113 yn Saesneg.