Prynwch yn Ddoeth Ar-lein
Mae Safonau Masnach Cymru (TSW) wedi nodi bod y cynnydd mewn trafodion ar-lein drwy gydol ac ar ôl y cyfnod pandemig wedi arwain at gynnydd esbonyddol yng ngwerth y nwyddau y cwynwyd amdanynt.
Hyd yn hyn eleni, yng Nghymru, bu 4,479 o gwynion i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn ymwneud â phroblemau a phryderon wrth brynu nwyddau ar-lein. Cyfanswm gwerth y broblem hon yw £7,909,127 gyda gwerth cyfartalog o £1,838.
Mewn cyfnod cyfatebol, yn 2019, bu 3,709 o gwynion i Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn ymwneud â phroblemau a phryderon wrth brynu nwyddau ar-lein. Gwerth y broblem hon oedd £4,496,973 gyda gwerth cyfartalog o £1,256.
Bu cynnydd o 21% mewn cwynion, a 76% ar gyfer cyfanswm y gwerth pan gymerir y dyddiadau hynny.
Mae cwynion ynghylch nwyddau ffug yn nodi bod 54% yn tarddu ar y rhyngrwyd neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol; ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd cynnydd mewn prynu ar-lein ar gyfer nwyddau nas prynwyd yn y ffordd honno yn draddodiadol. Ar Ddiwrnod 2, trafodwyd cerbydau.
Mae marchnad fawr hefyd wedi datblygu ar gyfer gwerthu cŵn, yn aml gan fridwyr anghyfreithlon. Mae Ymgyrch Cabal wedi arwain at atafaelu dros 250 o gŵn yn ystod ymchwiliadau a throseddau cysylltiedig gan gynnwys cyflenwi meddyginiaeth filfeddygol anghyfreithlon neu o dramor yn ogystal â chysylltiadau â gweithgarwch clinig ffrwythlondeb.
Mae tueddiad y gweithgaredd hwn yng Nghymru wedi arwain at dîm iechyd anifeiliaid penodedig wedi’i ariannu am 3 blynedd i hybu capasiti mewn awdurdodau lleol lle mae cyrchoedd mawr yn cael eu cynllunio a lle gall ymchwiliadau cymhleth elwa ar gymorth ychwanegol.
Gellir gwrando ar ein podlediad 'Gofyn i'r Rheoleiddiwr' ar gyfer Diwrnod 5 yma.
Gellir hefyd wrando ar ein podlediad Cymraeg, sy'n cynnwys trafodaethau am bynciau Wythnos Safonau Masnach Cymru.
Gwybodaeth bellach:
Ymgyrch Ar-lein y Fargen Go Iawn:
Taclo'r Tacle
Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth
Action Fraud
Swyddfa Eiddo Deallusol
Canllawiau Cydymaith Busnes ar eiddo deallusol
Canllawiau Cydymaith Busnes ar berchenogaeth anifeiliaid/anifeiliaid anwes cyfrifol